Neidio i'r prif gynnwy

Mae Bil newydd gan Lywodraeth Cymru sy'n anelu at wneud pethau'n symlach ac yn decach i denantiaid wedi'i basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y Bil yn ei gwneud yn drosedd i godi unrhyw dâl ar denant nad yw wedi'i bennu'n 'daliad a ganiateir' o dan y ddeddfwriaeth. Mae hynny'n golygu na chodir tâl ar denantiaid am bethau fel ymweliadau yng nghwmni rhywun, derbyn rhestr eiddo, llofnodi contract, neu adnewyddu tenantiaeth. Amcangyfrifir y bydd y Bil yn arbed bron £200 i denantiaid fesul tenantiaeth.

Caniateir i asiantiaid gosod eiddo a landlordiaid godi tâl mewn perthynas â rhent, blaendaliadau sicrwydd, blaendaliadau cadw, neu ddiffygdaliadau (pan fydd tenant yn torri amodau contract) yn unig, gan gynnwys taliadau mewn perthynas â'r dreth gyngor, cyfleustodau, trwydded deledu, neu wasanaethau cyfathrebu.

Bydd y Bil yn rhoi cap ar flaendaliadau cadw a delir i gadw eiddo cyn llofnodi'r contract rhentu i'r hyn a fydd gyfwerth ag wythnos o rent ac yn creu darpariaethau i sicrhau y gwneir yr ad-daliad yn brydlon. Bydd hefyd yn rhoi'r pŵer i Lywodraeth Cymru gyfyngu ar lefel y blaendaliadau sicrwydd.

Caiff proses orfodi glir, syml a chadarn ei chreu i ddelio â thorri rheolau'r ddeddfwriaeth. Gallai hysbysiadau cosb benodedig gael eu cyflwyno i unrhyw un sy'n ceisio codi taliad gwaharddedig. Os na chaiff cosbau eu talu, gall troseddau honedig gael eu herlyn drwy Lys Ynadon, a gallai hynny arwain at ddirwy heb gyfyngiad. Bydd Rhentu Doeth Cymru yn cael eu hysbysu am unrhyw drosedd, a byddant yn cymryd y drosedd i ystyriaeth wrth benderfynu a ddylid caniatáu neu adnewyddu trwydded ai peidio – a heb drwydded, ni all asiant na landlord roi eiddo ar osod neu rentu eiddo yng Nghymru.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:

Mae'r sector rhentu preifat yn gyfrifol bellach am 13% o'r holl dai yng Nghymru. Mae'n rhan bwysig iawn o'r ddarpariaeth tai yng Nghymru. Yn ogystal, mae'r ddeddfwriaeth hon yn sicrhau mwy o eglurder a fydd yn gwella enw da'r sector yn gyffredinol, ac yn rhoi mwy o sicrwydd i bobl eu bod yn cael bargen deg. Rwy am i rentu'n breifat fod yn ddewis cadarnhaol sydd ar gael i bawb.

Y ffioedd sy'n cael eu codi gan rai asiantiaid gosod eiddo a landlordiaid yw'r prif rwystrau yn ôl nifer o bobl rhag dod o hyd i dai rhent o ansawdd da. Ac mae rhai tenantiaid yn wynebu ffioedd o fwy na £200 yn ogystal â'u blaendal sicrwydd a'u rhent. Bydd y Bil hwn yn sicrhau y bydd costau rhentu'n fwy rhesymol, yn fforddiadwy ac yn dryloyw ac na fydd tenantiaid mwyach yn gorfod wynebu ffioedd sylweddol ac afresymol ymlaen llaw pan fyddant yn dechrau rhentu.

Ar ôl i'r Bil gael Cydsyniad Brenhinol, caiff newidiadau i'r hyn y gellir ac na ellir codi tâl amdano eu gwneud cyn y flwyddyn academaidd newydd. Mae hynny'n golygu y bydd tenantiaid sy'n symud i eiddo arall, neu bobl sy'n rhentu am y tro cyntaf, yn gweld arbedion sylweddol o fewn ychydig o fisoedd.