Neidio i'r prif gynnwy

Mae Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, wedi galw ar awdurdodau lleol i fod yn radical ac yn uchelgeisiol yn eu gwaith i wella teithio llesol ar draws Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth siarad mewn gweithdy yng Nghaerdydd, rhybuddiodd Lee Waters yr awdurdodau y bydd y rownd ddiweddaraf o gyllid yn gwobrwyo syniadau uchelgeisiol yn hytrach na bod yn seiliedig ar wasgariad daearyddol yn unig, ac addawodd gefnogi'r cynghorau hynny sydd angen help i wella eu cynlluniau teithio llesol yn y dyfodol.

Dywedodd: 

"Mae cael pobl i beidio defnyddio eu ceir ar gyfer siwrneiau byr a theithio mewn ffordd sy’n gwella eu hiechyd yn agenda uchelgeisiol ond mae’r manteision yn niferus, megis aer glanach, llai o dagfeydd ar y ffyrdd, gwell iechyd meddwl a siopau lleol prysurach. Fel y gwelwn mewn gwledydd eraill, mae ei effaith yn gallu trawsnewid bywydau. Os ydym am drawsnewid dewisiadau trafnidiaeth a theimlo'r manteision, rhaid inni feddwl yn fawr a bod yn uchelgeisiol. 

"Mae ein Deddf Teithio Llesol yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol i gyd, nid yn unig yr adrannau trafnidiaeth i hyrwyddo teithio llesol, gan sicrhau llwybrau a chyfleusterau newydd.

"Mae cydweithio da rhwng yr adrannau cynllunio, tai, datblygu economaidd, addysg, adfywio a gwasanaethau eraill yn hanfodol i gael y budd mwyaf o gyfleoedd i gynyddu lefelau cerdded a beicio, i wneud yn siŵr bod gennym y math cywir o seilwaith sy'n galluogi pobl i symud rhwng lleoliadau.

"Nid yw awdurdodau lleol wedi bod yn ddigon uchelgeisiol wrth lunio'r set gyntaf o gynigion. Hyd yn oed pan fyddant wedi'u datblygu'n gyfan gwbl, ni fyddant yn creu'r seilwaith a fydd yn galluogi pobl yng Nghymru i ddewis cerdded a beicio fel y ffordd fwyaf naturiol o deithio pellteroedd byr bob dydd. Yn wir, mae gan lawer iawn ohonynt dal llawer iawn o waith i’w wneud.

Gan ddeall y pwysau sydd ar awdurdodau lleol, esboniodd y Dirprwy Weinidog y cymorth y mae'n bwriadu ei gynnig i'w helpu i fod yn fwy uchelgeisiol cyn cyflwyno'r Mapiau Rhwydwaith Integredig diwygiedig nesaf: 

"Rwyf am ichi ddeall y profiadau yn iawn - yr elfennau cadarnhaol a negyddol - wrth weithredu'r ddeddfwriaeth, yn ogystal â'r rheini sydd ynghlwm wrth gynllunio cynlluniau penodol. 

"Rwyf am wybod yr hyn allai Llywodraeth Cymru ei wneud i'ch cefnogi i sicrhau eich bod yn cyflawni eich dyletswyddau o dan y Ddeddf. Rwyf eisoes yn ymwybodol ei bod yn debygol y bydd angen cymorth pellach yn y meysydd hyfforddiant dylunio a sut i ymgynghori ac ymgysylltu'n effeithiol.