Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy’n cyhoeddi Cynllun Gweithredu Cymraeg 2050 ar gyfer 2019-20. Rwy’n falch o’r cyfle hwn i roi gwybod i Aelodau sut bydd Llywodraeth Cymru yn parhau yn ystod 2019-2020 i weithredu’r amcanion a amlinellir yn ein strategaeth Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr.

Mae’r Cynllun Gweithredu yn adlewyrchu’r camau sydd wedi’u cynnwys yn Rhaglen Waith 2017-2021 Cymraeg 2050. Cyhoeddwyd y Rhaglen Waith law yn llaw â’r strategaeth fis Gorffennaf 2017,  ac mae’n nodi pa gamau y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd yn ystod y cyfnod hwn wrth weithredu blaenoriaethau’r Strategaeth yn ystod y blynyddoedd cynnar.

Yn ystod 2019-20, byddwn yn parhau i roi pwyslais ar osod sylfeini cadarn er mwyn gweithredu’r weledigaeth hirdymor hon. Yn unol â thair thema’r strategaeth, byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar:

  • greu galw am addysg cyfrwng Cymraeg (drwy weithio gyda lleoliadau cynysgol, addysg statudol ac ôl-16)
  • cynyddu’r niferoedd a all siarad yr iaith
  • cynyddu’r defnydd a wna siaradwyr o’r iaith
  • creu amodau ffafriol drwy gryfhau’r seilwaith sy’n cefnogi’r uchod.

Mae gan y strategaeth weledigaeth uchelgeisiol, sy’n golygu bod hwn yn amser hynod gyffrous i’r Gymraeg, ac yn gyfnod prysur iawn wrth inni ddatblygu ac ymestyn ar bolisïau sydd eisoes yn bodoli, a datblygu cynlluniau a gweithdrefnau newydd. Edrychaf ymlaen at barhau i gydweithio ag eraill ar draws y Llywodraeth ac ar lawr gwlad i weithredu’r strategaeth hon.

Linc i’r ddogfen:

https://llyw.cymru/cymraeg-2050-cynllun-gweithredu-strategaeth-y-gymraeg-2019-i-2020