Neidio i'r prif gynnwy

Yn esbonio pam mae angen i chi gadw cofrestr buches a sut i lawrlwytho ein llyfryn a argymhellir.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion

Mae’n rhaid i holl geidwaid gwartheg gadw cofrestr gyfredol ar gyfer eu gwartheg.

Gall eich cofrestr gael ei chadw ar bapur, cyfrifiadur neu drwy gyfuniad o’r canlynol:

  • Gallwch lawrlwytho cofrestr wag i chi ei llenwi
  • Gallwch ddefnyddio taenlen neu becyn meddalwedd ar gyfer ffermydd
  • Gallwch ddefnyddio llyfr nodiadau neu lyfr cofnodion (yn cynnwys yr wybodaeth a restrir isod)

Beth y mae angen ei gofnodi

Cofiwch sicrhau bod eich cofrestr yn rhestru'r wybodaeth a nodir yng ngholofn 1 i 9 o gofrestr Llywodraeth Cymru, sef:

  1. tag clust
  2. dyddiad geni
  3. brîd
  4. rhyw
  5. rhif tag clust y fam (a'r fam faeth)
  6. dyddiad symud
  7. enw a chyfeiriad neu CPH daliad cychwyn y daith neu’r daliad newydd
  8. dyddiad symud neu ddyddiad marwolaeth

Mae’n rhaid cofnodi’r digwyddiadau canlynol yn y gofrestr:

  • Genedigaethau
  • Marwolaethau
  • Symudiadau ar y daliad neu oddi arno
  • Tagiau newydd

Cofiwch sicrhau eich bod yn cadw eich cofrestr mewn lle diogel ac os oes gennych gofrestr electronig cofiwch sicrhau bod gennych fersiwn wrth gefn.

Copi wedi’i argraffu o’r gofrestr

Os hoffech gopi wedi’i argraffu o’r gofrestr, cysylltwch ag EIDCymru gan nodi eich enw a’ch cyfeiriad:

a byddant yn anfon un atoch drwy’r post.

Terfynau amser ar gyfer eich cofrestr

Dylai eich cofrestr gael ei chwblhau cyn gynted â phosibl ar ôl y digwyddiad, ac o dan y gyfraith mae’n rhaid cadw at y terfynau canlynol:

  • 36 awr yn achos symud ar ddaliad neu oddi arno
  • 7 diwrnod ar gyfer genedigaeth anifail godro
  • 30 diwrnod ar gyfer genedigaeth gwartheg eraill
  • 7 diwrnod ar gyfer marwolaeth
  • 36 awr ar gyfer tagiau clust newydd os yw’r rhif adnabod yn wahanol

Am faint y dylech gadw eich cofrestr buches

Mae'n ofynnol eich bod yn cadw eich cofrestr am 10 mlynedd yn dilyn y dyddiad olaf a nodwyd ar eich cofrestr. Bydd angen sicrhau ei bod ar gael i’w gweld gan arolygwyr awdurdodedig ar gais.

Gallai methiant i gwblhau a chadw eich cofrestr/i arwain at gosbau ariannol neu gallech gael eich erlyn.