Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad sy'n cynnwys gwybodaeth yn ôl math o aelwyd, poblogaeth a maint cyfartalog ay gyfer canol-2018.

Amcangyfrif o nifer yr aelwydydd yng Nghymru

Ers canol 1991, mae nifer yr aelwydydd wedi cynyddu 22.1% o 1.11 miliwn i 1.36 miliwn yng nghanol 2018.

Rhwng canol 2017 a chanol 2018, mae’r amcangyfrif o nifer yr aelwydydd yng Nghymru wedi cynyddu 8,800 (0.7%) i 1.36 miliwn.

Roedd y cynnydd cyffredinol yn bennaf o ganlyniad i aelwydydd un-person a dau-berson, sy'n parhau i fod y mathau mwyaf cyffredin o aelwyd yng Nghymru, yn seiliedig ar yr amcangyfrifon hyn.

Amcangyfrifon o nifer yr aelwydydd yn ôl awdurdod lleol

Bu cynnydd yn yr amcangyfrif o nifer yr aelwydydd ymhob awdurdod lleol yng Nghymru rhwng canol 2017 a chanol 2018. Gwelwyd y cynnydd mwyaf yng Nghaerdydd, Casnewydd a Rhondda Cynon Taf.

Poblogaeth aelwydydd preifat

Ar lefel Cymru mae amcangyfrif y boblogaeth aelwydydd preifat wedi cynyddu tua 13,200 rhwng canol 2017 a chanol 2018.

Gwelodd Ceredigion a Phowys ostyngiad yn eu poblogaeth aelwydydd preifat.

Amcangyfrifon o faint cyfartalog aelwydydd

Mae amcangyfrifon o faint cyfartalog aelwydydd Cymru wedi bod yn gostwng yn gyson. Yng nghanol 2018 maint cyfartalog aelwyd yng Nghymru oedd 2.27 person o gymharu â 2.52 yng nghanol 1991.

Mae pob awdurdod lleol wedi gweld gostyngiad yn ei hamcangyfrif o faint cyfartalog aelwydydd ers 2011.

Adroddiadau

Amcangyfrifon aelwydydd, canol-2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 549 KB

PDF
Saesneg yn unig
549 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.