Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy'n ysgrifennu atoch i roi'r newyddion diweddaraf i chi am gynllun deuoli Rhan 2 yr A465 rhwng Gilwern a Bryn-mawr.

Rydych yn ymwybodol, rwy’n siŵr, bod Llywodraeth Cymru yn gwneud cyfres o welliannau hynod uchelgeisiol i ddeuoli 40km o’r A465 rhwng y Fenni a Hirwaun. Mae’r prosiect yn cynnwys cynllun i ledu’r ffordd rhwng Gilwern a Bryn-mawr - Rhan 2.

Mae'r gwaith sydd ynghlwm wrth Ran 2 yn cynnwys lledu 8km ar hyd linell bresennol y ffordd o fewn Ceunant Clydach sy'n safle hynod serth ac amgylcheddol sensitif. Dechreuodd y gwaith ar y safle yn gynnar yn 2015 ac mae dros dri chwarter y gwaith adeiladu bellach wedi'i gwblhau. Erbyn y bydd y gwaith hwn wedi'i gwblhau bydd ffordd ddeuol gyflawn rhwng canol Lloegr a Blaenau'r Cymoedd, sy'n cynnwys Ardal Fenter Glyn Ebwy.

Rwyf eisoes wedi cyhoeddi dau ddatganiad ysgrifenedig, un ym mis Tachwedd 2017 a'r llall ym mis Mehefin 2018 ynghylch sefyllfa fasnachol y prosiect.

Ym mis Mehefin 2018 gwnaeth Swyddfa Archwilio Cymru gychwyn archwiliad o sefyllfa fasnachol y prosiect. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru, Costain ac Asiant ein Cyflogwr wedi rhoi gwybodaeth fanwl iawn i Swyddfa Archwilio Cymru a fydd yn eu galluogi i ddeall y sefyllfa. Mae'r broses o ddatrys yr anghydfod yn parhau ac rydym yn aros am adroddiad interim gan Swyddfa Archwilio Cymru a fydd yn nodi eu casgliadau sy'n seiliedig ar ffeithiau ynghylch y gwaith y maent wedi'i gynnal hyd yma. Ni fyddai'n briodol i mi wneud unrhyw sylwadau pellach ynghylch yr anghydfod tra bo'r broses yn parhau.

Gallaf bellach gadarnhau bod oedi o ran y prosiect a bod y costau wedi cynyddu yn sgil yr anawsterau sy'n bodoli ar y safle. Mae Costain wedi nodi mai'r prif reswm am hyn yw'r angen am ateb adeiladu cymhleth ar gyfer mynd i'r afael â nodwedd ddaearegol y maent wedi'i darganfod mewn un lleoliad penodol. Bydd yr ateb sydd ei angen yn effeithio ar y costau a hefyd y rhaglen adeiladu.

Er y bydd y rhan fwyaf o'r gwaith ar y cynllun yn cael ei gwblhau erbyn Rhagfyr 2019 ni fydd y cyfan bellach yn barod hyd 2020. Mae costau'r prosiect hefyd wedi cynyddu ymhellach a rhagwelir y bydd yn costio tua £54.90m (yn cynnwys TAW) yn fwy na'r gyllideb ddiwygiedig.

Rwy'n amlwg yn teimlo'n siomedig iawn ynghylch y newyddion yma ond mae fy swyddogion yn cydweithio â Costain er mwyn cyflawni'r prosiect cyn gynted ag y bo'n ymarferol.

Mae tîm y prosiect yn parhau i ddefnyddio gwahanol ddulliau er mwyn hysbysu rhanddeiliaid ynghylch hynt y gwaith ar y safle, ac yn arbennig ynghylch cau unrhyw ffyrdd. Mae'r mesurau sy'n cael eu defnyddio'n cynnwys negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol sy'n cyrraedd dros 45,000 o bobl, gwefannau, cyflwyniadau, llythyrau drwy'r drws, hysbysebion mewn papurau newydd ac ar y radio, arwyddion traffig ar y safle ac ymlaen llaw a hefyd dîm cyswllt â'r cyhoedd sy'n gweithio'n amser llawn. Rwyf hefyd wedi gofyn i'm swyddogion gynnal cyfarfodydd cyhoeddus rheolaidd er mwyn sicrhau bod cymunedau lleol yn parhau i dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf. 

Cafodd proses Ymwneud Cynnar gan Gontractwr ei ddewis ar gyfer y prosiect hwn.  Mae arfer gorau o fewn y diwydiant ar gyfer prosiectau seilwaith mawr ar briffyrdd dros y 15 mlynedd a mwy diwethaf wedi cynnwys y defnydd o’r broses Ymwneud Cynnar gan Gontractwr ar gyfer proses gaffael y dylunio a’r adeiladu.  Mae’r math hwn o gaffael yn cael ei ddefnyddio’n eang yn y DU a dyma’r dull caffael a ffefrir gan Is-adran Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau seilwaith mawr, cymhleth.  Mae wedi’i weithredu’n llwyddiannus ar nifer o wahanol brosiectau cefnffyrdd cymhleth a gyflawnwyd yng Nghymru yn ddiweddar. 

Yn eu harchwiliad “Cyflwr Ffyrdd Cymru” gwelodd pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau bod cefnogaeth eang i’r dull Ymwneud Cynnar. 

Yn hanesyddol mae dulliau o gyflawni prosiectau peirianneg sifil wedi golygu contractwr oedd yn cynnal gwaith adeiladu ar brosiect a fyddai eisoes wedi bod yn rhan o nifer o lefelau o ddatblygu’r dyluniad – fel arfer gan ymgynghorydd ar wahân, a fyddai wedi datblygu’r dyluniad drwy’r Broses Statudol cyn penodi y contractwr adeiladu. 

Mae’r contract Ymwneud Cynnar yn golygu penodi tîm dylunio a chyflawni integredig ar ddechrau cam datblygu y prosiect, a’r tim cyfan hwnnw’n mynd drwy’r broses datblygu dyluniad amlinellol, y Broses Statudol ac yna ymlaen i ddylunio ac adeiladu manwl. 

Mae’r broses datrys anghydfodau wedi tynnu sylw at nifer o feysydd i’w gwella o fewn contract enghreifftiol Llywodraeth Cymru, a hefyd o fewn cyfres o ddogfennau Contract Peirianneg Newydd Sefydliad y Peirianwyr Sifil.  Cafodd proses gwersi i’w dysgu gynhwysfawr ei sefydlu, i sicrhau eu bod yn cael eu bwydo i’r prosesau caffael cyfredol ac yn y dyfodol o fewn yr Is-adran Trafnidiaeth, ond gan hefyd fynd yn ôl at y Contract Peirianneg Newydd i’w ddiweddaru yn y dyfodol o fewn eu cyfres hwy o gontractau adeiladu.