Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gall anymataliaeth ysgarthol effeithio ar unrhyw un.  Y grŵp mwyaf yw menywod, ifanc a hen, oherwydd y cysylltiad â beichiogrwydd ac anaf obstetrig. Fodd bynnag, mae llawer o achosion eraill, gan gynnwys llawdriniaeth am ganser a radiotherapi sy'n effeithio ar ddynion a menywod.

Yn sgil lansio Sefydliad MASIC (Mothers with Anal Sphincter Injuries in Childbirth) yng Nghymru, gofynnais i'r Grŵp Cynghori Arbenigol Cenedlaethol ar Iechyd Menywod i asesu'r sefyllfa bresennol o ran darpariaeth a gwasanaethau anymataliaeth ysgarthol.

Sefydlwyd grŵp gorchwyl a gorffen, o dan gadeiryddiaeth Julie Cornish (llawfeddyg ymgynghorol ym maes y colon a'r rhefr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro), i ddarparu adroddiad yn amlinellu'r gwasanaethau i hybu iechyd y pelfis sydd ar gael ar hyn o bryd i fenywod sydd ag anymataliaeth ysgarthol yng Nghymru, gan nodi unrhyw ddiffygion yn y triniaethau a gynigir ac a gymeradwywyd gan NICE, ac i wneud argymhellion ar gyfer datblygu gwasanaethau.

Hoffwn i ddiolch i holl aelodau'r grŵp am eu gwaith caled yn paratoi'r adroddiad hwn, yr wyf mor falch ei gyhoeddi heddiw. Bydd yr adroddiad hwn yn rhoi'r sail y gallwn wella bywydau'r rheini sydd ag anymataliaeth ysgarthol arni.

Mae'r Grŵp yn gwneud nifer o argymhellion i wella gwasanaethau anymataliaeth ysgarthol a darparu gwell canlyniadau i fenywod. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod y broses atgyfeirio rhwng adrannau ac ysbytai yn fwy syml i osgoi oedi a gwella cyfathrebu, sicrhau bod Ymarferwyr Cyffredinol a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill yn fwy ymwybodol o anymataliaeth ysgarthol a sut i'w rheoli a darparu mwy o wybodaeth i fenywod am effaith bosibl geni plant ar iechyd y pelfis ac anymataliaeth (cynenedigol ac ôl-enedigol).

Rhaid i faterion iechyd difrifol sy'n effeithio ar fenywod gael sylw effeithiol a phriodol. Am y rheswm hwn, rwyf wedi rhoi cyfarwyddyd i'r Grŵp Gweithredu ar Iechyd Menywod, o dan gadeiryddiaeth Tracy Myhill, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, i ystyried holl argymhellion yr adroddiad hwn ynghyd â'i waith ar dâp a rhwyll y wain, endometriosis a materion ehangach iechyd y pelfis.

Bydd y Grŵp Gweithredu ar Iechyd Menywod yn darparu arweiniad strategol er mwyn gweithredu ar draws Cymru gyfan i chwalu rhwystrau a chyfuno llwybrau gofal sylfaenol, gofal eilaidd a gofal trydyddol, fel bod iechyd menywod yn cael ei reoli yn y gymuned lle bynnag y bo'n bosibl gan leihau'r angen am ymyrraeth. Rwyf wedi cyhoeddi o'r blaen fod y Grŵp Gweithredu ar Iechyd Menywod yn cael cymorth ariannol o hyd at £1 miliwn bob blwyddyn.

Dolen i'r adroddiad: https://llyw.cymru/grwp-gorchwyl-gorffen-ar-anymataliaeth-ysgarthol-adroddiad