Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AC, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod y Cyngor Ewropeaidd wedi cyfarfod ar 10 Ebrill i ystyried y cais gan Brif Weinidog y DU am estyniad pellach i ddyddiad ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd a bennwyd o dan Erthygl 50 o’r Cytuniad ar yr Undeb Ewropeaidd.

Cytunodd y Cyngor y gellid ymestyn y dyddiad tan 31 Hydref 2019, ond y gallai'r DU hefyd ymadael â'r UE yn gynharach na'r dyddiad hwn, pe byddai'n cytuno ar y Cytundeb Ymadael sydd wedi'i negodi eisoes. Fel amod ar gyfer cael estyniad ymhellach na 1 Mehefin 2019, bydd rhaid i'r DU gymryd rhan yn yr etholiadau i Senedd Ewrop. Mae casgliadau'r Cyngor Ewropeaidd i'w gweld yma: https://data.consilium.europa.eu/doc/document/XT-20015-2019-INIT/en/pdf

Mae Prif Weinidog y DU wedi derbyn y penderfyniad hwn.

Ysgrifennais at Brif Weinidog y DU ddiwrnod cyn yr uwchgynhadledd i'w hannog i dderbyn estyniad hyblyg pe byddai'n cael ei gynnig. Rwy’n falch felly fod y DU wedi cael rhywfaint o amser i gael ei gwynt ati a phenderfynu ar ffordd ymlaen a all ennyn cefnogaeth eang yn Senedd y DU ac ar draws y DU.

Fodd bynnag, mae'n hanfodol na fydd yr oedi hwn yn cael ei weld fel cyfle pellach i unrhyw un o bleidiau San Steffan ymladd yn fewnol a chwarae gêm beryglus. Byddai hynny’n ymosodiad pellach ar ymddiriedaeth y cyhoedd mewn gwleidyddiaeth ddemocrataidd, sydd eisoes yn beryglus o isel. Mae'n ddyletswydd ar wleidyddion etholedig i ymddwyn yn gyfrifol.

Rydym yn cymell Llywodraeth y DU a'r Wrthblaid felly i ddwysáu’r negodiadau er mwyn dod o hyd i ffordd ymlaen sydd, yn unol â’r safbwynt sydd wedi’i hen fabwysiadu gan y Cynulliad Cenedlaethol, yn rhoi digon o sicrwydd y bydd perthynas y DU â'r UE yn y dyfodol yn diogelu buddiannau pobl Cymru a phobl ledled y DU.

Fel y bydd yr Aelodau yn gwybod eisoes, roeddwn i wedi trafod â'r Llywydd y posibilrwydd o alw'r Cynulliad yn ôl i drafod canlyniad cyfarfod y Cyngor Ewropeaidd. O ystyried nad oes bygythiad uniongyrchol mwyach y byddwn yn cael ein rhwygo'n ddisymwth o'r UE heb gytundeb, rwyf wedi dod i'r casgliad nad yw'n angenrheidiol gwneud hynny.

Fodd bynnag, bydd cyfle wrth reswm yn fuan ar ôl y toriad i'r Cynulliad drafod y mater hwn, sy'n parhau’n gwbl dyngedfennol i'n cenedl.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.