Neidio i'r prif gynnwy

Mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cyhoeddi £550,000 gan gronfa bontio'r UE ar gyfer Cynllun Buddsoddi mewn Odynau Pren (WKIS).

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'n rhaid i ddeunydd pacio pren (WPM) gael ei drin â gwres i safon rhyngwladol o'r enw ISPM15 os yw i groesi i'r UE o drydydd gwlad. Bydd y cynllun newydd hwn yn helpu i ariannu rhagor o odynau pren i gynnal y gwaith gwresogi, drwy sicrhau bod cwmnïau prosesu pren yn gallu cynhyrchu paledi pren yn bennaf (WPM) sy'n cydymffurfio â'r safon hwn.

Ar hyn o bryd, ledled yr UE, caiff oddeutu 40% o baledi pren eu trin i'r safon hwn. Mewn sefyllfa Brexit, ble y caiff y DU ei thrin fel trydydd gwlad, mae'n bosibl y bydd yn  rhaid i bob deunydd pacio pren sy'n symud rhwng y DU a'r UE gydymffurfio â ISPM15. Gallai hyn olygu y bydd tarfu ar fasnach oherwydd mwy o reolau WPM yn achosi oedi a WPM sydd ddim yn cydymffurfio yn cael ei gosbi.

Ychydig o fusnesau yng Nghymru all roi triniaeth gwres i safon ISPM15, ac mae'r cynllun newydd hwn wedi'i ddylunio i sicrhau bod mwy o gwmnïau o Gymru yn gallu cynhyrchu deunydd pacio pren i'r safon hwn, ac felly'n eu galluogi i fasnachu'n rhwydd pan fydd y DU yn ymadael â'r UE.

Y cynllun hwn yw un o bump prosiect sy'n cael eu cefnogi drwy'r ail gyfres o gynigion ar gyfer y Gronfa Bontio Ewropeaidd a gyhoeddwyd fis Gorffennaf 2018 i gefnogi y diwydiannau amaethyddiaeth, bwyd a physgodfeydd. Mae ar agor i geisiadau gan Fentrau Bach a Chanolig yng Nghymru sy'n rhan o'r diwydiant prosesu pren.

Dywedodd Lesley Griffiths:

"Bydd y cynllun hwn sy'n cael ei ariannu drwy ein Cronfa Bontio'r UE gwerth £50 miliwn, yn helpu i ddarparu'r dechnoleg y mae busnesau prosesu pren ei angen fel eu bod yn cydymffurfio â'r safonau rhyngwladol angenrheidiol wrth inni ymadael â'r UE."

"Dyma un enghraifft o'r ffyrdd arloesol yr ydym yn eu hystyried o gefnogi sefydliadau drwy Brexit, gan edrych ar ba gefnogaeth ariannol, canllawiau a chyngor y gallwn eu darparu a'u datblygu a helpu iddynt ddelio â'r newid. Bydd y gronfa yn gweithio ochr yn ochr â'r cymorth a'r canllawiau ariannol presennol yr ydym yn eu darparu eisoes.

"Waeth beth fydd y sefyllfa o ran Brexit heb gytundeb, mae hwn yn gynllun gwerth chweil, gan mai ychydig iawn o allu sydd gennym yn y maes hwn ar hyn o bryd. Bydd yn galluogi busnesau i baratoi mwy o gynnyrch pacio pren ar gyfer marchnadoedd yma a thramor a thrwy hynny hybu eu posibiliadau i fasnachu."