Daeth yr ymgynghoriad i ben 19 Gorffennaf 2019.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o’r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 498 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydyn ni am glywed eich barn am ein canllaw arfer gorau diweddaraf ar gynllunio a gwella mynediad i adeiladau rhestredig yng Nghymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Amcan y canllaw diweddaraf hwn yw helpu pobl i gynllunio a gwella mynediad i adeiladau rhestredig yng Nghymru. Mae’n crynhoi’r fframwaith rheoleiddio sy’n rheoli newidiadau i adeiladau rhestredig. Mae’n esbonio hefyd sut y gall gwelliannau i hygyrchedd ystyried ‘egwyddorion cadwraeth’ Cadw.
