Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r daith tuag at gyflwyno cwricwlwm newydd i Gymru yn 2022 yn cyrraedd carreg filltir bwysig heddiw drwy gyhoeddi fersiwn ddrafft sydd wedi'i dylunio gan athrawon a'i lywio gan arbenigwyr o Gymru a thu hwnt.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ers 2015, mae athrawon o ysgolion arloesi ledled Cymru wedi bod yn cydweithio i baratoi fframwaith drafft sy'n torri'n rhydd yn fwriadol o'r cwricwlwm rhagnodol a chyfyngol a gyflwynwyd am y tro cyntaf ym 1988 ac sydd ar ôl yr oes bellach.

Mae'r cwricwlwm newydd yn cael ei lunio ar sail pedwar diben a fydd yn helpu dysgwyr i ddod yn alluog ac uchelgeisiol, yn fentrus a chreadigol, yn egwyddorol a gwybodus ac yn iach a hyderus.

Rhoddir mwy o hyblygrwydd i athrawon ddatblygu cwricwlwm yn eu hysgol sy'n diwallu anghenion eu dysgwyr. Byddant yn gallu gwneud hyn drwy ddefnyddio fframwaith cyffredin sy'n cynnwys chwe Maes Dysgu a Phrofiad newydd.

Bydd y Meysydd Dysgu a Phrofiad hyn yn ymwneud â'r canlynol: Mathemateg a Rhifedd; Gwyddoniaeth a Thechnoleg; y Dyniaethau; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu; Iechyd a Lles; a'r Celfyddydau Mynegiannol.

Bydd y ffiniau traddodiadol rhwng pynciau yn cael eu chwalu, gan alluogi dysgwyr i ystyried gwahanol gysyniadau a materion yn y ffordd ehangaf bosibl.

Yn ogystal, bydd pob Maes Dysgu a Phrofiad yn cael ei osod yn gadarn mewn cyd-destun Cymreig a rhyngwladol er mwyn i ddysgwyr gael y cyfle i ddeall eu gwlad a'i chyfraniad i'r byd ym mhob rhan o'r cwricwlwm.

Bydd Cyfrifoldebau Trawsgwricwlaidd llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn statudol hyd at 16 oed.

Diben gwneud y meysydd hyn yn drawsgwricwlaidd yw er mwyn i ddysgwyr allu eu defnyddio mewn gwahanol sefyllfaoedd academaidd neu rai go iawn; gallai hynny gynnwys ymarfer eu sgiliau rhifedd drwy ddysgu caneuon pan yn iau, neu gallai olygu dysgu sut i ddatrys problemau a rheoli eu harian mewn perthynas pan yn hŷn.

Bydd Cymraeg a Saesneg, Astudiaethau Crefyddol ac Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb hefyd yn statudol hyd at 16 oed.

Mae'r athrawon, a'r ymarferwyr ac arbenigwyr eraill sydd wedi bod wrthi'n paratoi dogfennau drafft y Meysydd Dysgu a Phrofiad wedi eu llunio ar sail yr hyn sydd wir yn bwysig i ddysgwyr, yn eu barn nhw - y wybodaeth, y sgiliau a'r profiadau sy'n creu addysg gytbwys o safon uchel ac sy'n paratoi dysgwyr ar gyfer swydd mewn byd sy'n newid yn gyflym.

Yn wahanol i'r gorffennol, bydd Camau Cynnydd ar gyfer pob Maes Dysgu a Phrofiad yn cymryd lle Cyfnodau Allweddol. Bydd y rhain yn nodi'r hyn a ddisgwylir gan ddysgwyr yn 5, 8, 11, 14 ac 16 oed ei gyflawni, a byddant yn llywio dyluniad y cwricwlwm ym mhob ysgol. Yn ogystal, byddant yn galluogi athrawon i asesu cynnydd dysgwyr wrth iddynt symud drwy'r ysgol.

Bwriad yr asesu parhaus hwn yw rhoi darlun cliriach i ddysgwyr a'u rhieni/gofalwyr o feysydd y gallant eu gwella - gan ystyried eu galluoedd, eu profiadau a'u cyfraddau dysgu a dealltwriaeth unigol.

Fel rheoleiddiwr annibynnol, bydd Cymwysterau Cymru yn sicrhau bod unrhyw newidiadau arfaethedig i gymwysterau o ganlyniad i'r cwricwlwm newydd yn gwneud synnwyr i ddysgwyr, athrawon, rhieni a chyflogwyr.

Mae cyfanswm o £44 miliwn wedi'i neilltuo'n benodol er mwyn helpu ysgolion ac athrawon i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd. Mae hyn yn cynnwys £20 miliwn ar gyfer datblygu a gweithredu'r cwricwlwm, a £24 miliwn ychwanegol ar gyfer dysgu proffesiynol, sef y buddsoddiad unigol mwyaf o ran cymorth i athrawon yng Nghymru ers datganoli.

Wrth lansio fersiwn ddrafft y cwricwlwm yn Ysgol Olchfa, Abertawe, dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:

“Mae heddiw yn benllanw blynyddoedd o waith caled gan ein hathrawon a'n harbenigwyr o Gymru a thu hwnt.

“Mae'r hyn rydym yn ei gyhoeddi heddiw yn wahanol iawn i'r hyn y bydd y rhan fwyaf ohonom wedi'i brofi, ac mae'n newid mawr o ran diwylliant. Rydym yn rhoi'r gorau i gwricwlwm cyfyngol, sydd ar ôl yr oes bellach, ac sy'n nodi'r hyn y dylai'r disgyblion fod yn ei ddysgu fesul pwnc, fesul testun, fesul awr. Nid llyfr rheolau mo hwn.

“Gan ddefnyddio eu gwybodaeth, eu profiad a'u harbenigedd helaeth, mae athrawon yng Nghymru wedi creu fframwaith sy'n nodi hanfodion addysg wirioneddol yr unfed ganrif ar hugain.

“Rwyf wedi'i ddweud eisoes, ni fyddwn yn gweithredu'n fyrbwyll. Nid yw'r cwricwlwm yn mynd i lanio ar ddesg athro ar brynhawn dydd Gwener, yn barod i'w addysgu ar ddydd Llun. Bydd hyn yn cymryd amser, sy'n golygu cydweithio â'r proffesiwn er mwyn inni wneud pethau'n iawn.

“Heddiw yw dechrau ymgynghoriad pwysig ynglŷn â fersiwn ddrafft fframwaith y cwricwlwm sy'n rhedeg tan 19 Gorffennaf. Yn fuan, byddaf yn cychwyn ar Daith Cenhadaeth ledled Cymru ac er mwyn clywed yr hyn sydd gan y gweithlu addysg i'w ddweud.

“Rydym hefyd yn gofyn am yr amrywiaeth ehangaf posibl o safbwyntiau ar fersiwn ddrafft y fframwaith hwn - o Brifysgolion a Cholegau i ddiwydiant; o sefydliadau ieuenctid i fusnesau a chyflogwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymuno â'r sgwrs. ​​”

Bydd fersiwn ddrafft fframwaith y cwricwlwm ar gael ar Hwb, ynghyd ag adnoddau gan gynnwys adnoddau Google a Microsoft am ddim.