Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd cyfraddau treth incwm Cymru eu cyflwyno ar 6 Ebrill eleni. I baratoi ar gyfer hynny, bu Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) yn gweithio gyda chyflogwyr a darparwyr gwasanaethau’r gyflogres i nodi’r trethdalwyr sy’n byw yng Nghymru  y dylid neilltuo’r cod treth ‘C’ newydd iddynt. Yna, fe roddodd CThEM y codau treth newydd, ynghyd â’r canllawiau technegol a’r data profi sy’n cyd-fynd a nhw, i gyflogwyr cyn 6 Ebrill er mwyn gwneud yn siŵr bod yr holl wybodaeth ganddynt i roi’r newid ar waith.

Mae CThEM wedi rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am wall sydd wedi digwydd wrth roi’r codau newydd ar waith ar gyfer nifer o gyflogwyr, gan gynnwys rhai o adrannau ac asiantaethau llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae hynny wedi golygu bod rhai trethdalwyr sy’n byw yng Nghymru wedi derbyn cod ‘S’ yr Alban ac felly wedi talu cyfraddau treth incwm yr Alban ym mis Ebrill. Nid yw CThEM yn gallu cadarnhau maint llawn y gwall ar hyn o bryd, na dweud ar faint o drethdalwyr y mae hyn wedi effeithio. Fodd bynnag, o ran y sefydliadau yr ydym yn gwybod amdanynt, bydd y trethdalwyr wedi talu ychydig yn fwy neu ychydig yn llai o dreth. Lle bo trethdalwyr wedi talu rhy ychydig o dreth (neu wedi cael eu gordalu), ni fydd hyn yn fwy na £2 fel arfer. Lle bo trethdalwyr wedi talu gormod o dreth (neu heb dderbyn swm digonol), ni fydd hynny’n fwy na £10. Mewn rhai achosion, bydd trethdalwyr wedi talu’r swm cywir o dreth er eu bod wedi cael cod ‘S’.

Rwyf wedi siarad gyda swyddogion CThEM ac wedi gofyn am ragor o fanylion ynglŷn â’r hyn a achosodd y broblem hon, pa mor eang ydyw a nifer y trethdalwyr a effeithiwyd ganddi. Rwyf wedi gofyn hefyd am sicrhad ynglŷn â’r camau gweithredu sy’n cael eu cymryd i gywiro’r mater. Mae Jim Harra, Is-ysgrifennydd Parhaol CThEM, wedi ysgrifennu ataf heddiw i gadarnhau sut mae CThEM yn ymateb a beth yw eu cynlluniau i gywiro a monitro’r sefyllfa.

Bydd modd i CThEM gynnal proses wirio gynhwysfawr ddechrau mis Mehefin, a bydd asesiad llawn o faint y broblem yn cael ei gynnal bryd hynny. Lle bo anghysondeb rhwng y cod ‘C’ cywir a roddwyd gan CThEM a’r cod a ddefnyddiwyd gan y cyflogwr, bydd CThEM yn ail-roi’r cod treth i’r cyflogwr. Bydd ail broses wirio yn cael ei chynnal ym mis Medi i helpu i atal unrhyw wallau parhaus wrth ddyrannu codau ‘C.’

Ers i’r gwall ddod i’r fei, mae CThEM wedi bod yn gweithio gyda’r sefydliadau yr effeithiwyd arnynt, er mwyn cywiro’r mater. Mae CThEM wedi cadarnhau y bydd y gwall yn cael ei ddatrys cyn i gyflogresi mis Mai gael eu prosesu, ac y bydd unrhyw achosion o dalu gormod neu rhy ychydig o dreth yn cael eu cywiro bryd hynny.  O ganlyniad i hynny, ni fydd y gordaliad na’r tandaliad gan unrhyw unigolyn yn sylweddol.  Bydd unrhyw wall yn swm y dreth a dalwyd yn cael ei ddatrys drwy broses cysoni trethi safonol CThEM ar gyfer Talu wrth Ennill, ac ni fydd angen i drethdalwyr Cymru wneud dim. Ni fydd hyn yn effeithio o gwbl ar yr addasiad i’r grant bloc. 

Fel llywodraeth, fe wnaethom y dewis cywir i fod yn ofalus ar y cychwyn wrth fynd ati i ddiwygio trethi – a hynny er mwyn atal, hyd y bo modd, y risg o broblemau wrth i’r system newydd ymwreiddio. Mae cyflwyno cyfraddau treth incwm Cymru yn ddatblygiad arwyddocaol yn hanes datganoli Cymreig, ac mae Llywodraeth Cymru’n benderfynol y dylai trethdalwyr Cymru gael gwasanaeth sy’n ddibynadwy ac yn effeithiol. Mae’n siom, yn yr achos hwn, fod anhwylustod wedi’i achosi i rai o drethdalwyr Cymru.

Bydd Trysorlys Cymru yn parhau i weithio gyda CThEM fel rhan o’n trefniadau rheoli a chydlynu ffurfiol, sy’n cynnwys ein Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ynghyd â’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth arfaethedig. Mae CThEM wedi ymrwymo i barhau i ddarparu adroddiadau cynnydd i Weinidogion Cymru ynglŷn â’r broses weithredu a gweinyddu, ac i adrodd i Bwyllgor Cyllid y Cynulliad er mwyn helpu i sicrhau tryloywder llawn mewn perthynas â rheoli’r dreth rannol-ddatganoledig hon.

Byddaf yn rhoi datganiad pellach i’r Cynulliad ar y mater hwn unwaith y bydd CThEM wedi cwblhau ei waith gwirio ym mis Mehefin.