Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip a Julie Morgan AC, Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 8 Mai, cyhoeddodd y  Gweinidog  Mewnfudo yn Llywodraeth y DU, Caroline Nokes AS, Ddatganiad Ysgrifenedig yn nodi canlyniadau ei hadolygiad o lefelau'r cyllid a ddarperir ar gyfer Plant ar eu Pen eu Hunain yn Ceisio Lloches (UASC). Y Swyddfa Gartref sy'n rhoi'r cyllid hwn i awdurdodau lleol tuag at y gost o ofalu am y bobl ifanc hyn, waeth sut y maent wedi cyrraedd y DU.

Dechreuodd yr adolygiad yn yr hydref 2017, gyda'r bwriad o gyflwyno adroddiad ym mis Ionawr 2018, a darparu'r lefelau newydd o gyllid o fis Ebrill 2018 ymlaen. Roedd y lefelau a ddarparwyd gynt yn amrywio o £71 y dydd i £114 y dydd, gan ddibynnu ar oedran y person ifanc a'r dyddiad pan gyrhaeddodd. Bellach daeth yr adolygiad i ben, ac o 1 Ebrill 2019, y lefel newydd yw £114 y dydd ar gyfer pob plentyn ar ei ben ei hunan sy'n ceisio lloches.

Cyfrannodd Llywodraeth Cymru a CLlLC at yr adolygiad hwn, gan gyflwyno’r achos o blaid adennill y gost lawn. Roedd eu safbwynt yn seiliedig ar yr adborth a gafwyd gan awdurdodau lleol yng Nghymru, a thystiolaeth ymchwil a oedd yn dangos nad oedd y cyllid a ddarperid gan Lywodraeth y DU ond yn talu am 55% o gostau gwirioneddol rhoi gofal a chymorth i'r bobl ifanc hyn. Nid yw'r meini prawf ariannu yn cynnwys costau gofal iechyd ac addysg. Yn y cyfnod hwn o gyni i’n gwasanaethau cyhoeddus, rydym yn cydnabod yr anawsterau y mae awdurdodau lleol a sefydliadau partner yn eu hwynebu o ran ariannu'r holl waith y byddent yn hoffi ei ariannu.

Er bod y lefel newydd o gyllid yn golygu cynnydd cyffredinol, nid yw'n cyfateb i adennill y gost lawn, ac mae'r costau gofal iechyd ac addysg yn parhau'n gostau anghymwys. Dywedodd Llywodraeth y DU ei bod yn gobeithio y bydd y cynnydd hwn yn galluogi awdurdodau lleol i sicrhau bod mwy o leoliadau ar gael i'r plant hyn, yn enwedig y rhai sy'n gymwys i gael eu trosglwyddo i'r DU o Ewrop drwy Welliant Dubs. Rydym yn ymwybodol bod nifer o blant sy'n barod i gael eu hailsefydlu yma, a gofynnwyd i awdurdodau lleol Cymru nodi lleoliadau ar eu cyfer. Mae Penaethiaid Gwasanaethau Plant yng Nghymru wedi datgan o'r blaen eu bod yn awyddus i gynnig llety i blant o dan Welliant Dubs, ac mae Llywodraeth Cymru hefyd yn croesawu'r plant hyn. Byddwn yn cadw mewn cysylltiad ag awdurdodau lleol i wybod beth yw effaith y setliad ariannol newydd o ran darparu lleoliadau ar gyfer y plant hyn.