Neidio i'r prif gynnwy

Mae 50 o brosiectau Dechrau'n Deg ledled Cymru wedi cael bron i £3 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru i helpu i wella, datblygu neu ymestyn y lleoliadau lle ceir darpariaeth o dan y cynllun Dechrau'n Deg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, heddiw y byddai cyllid ar gael ar gyfer 50 o brosiectau yn canolbwyntio ar greu cyfleusterau newydd, gwneud gwelliannau i adeiladau, gwneud atgyweiriadau a chreu mynediad gwell yn ystod 2019-2020. 

Mae Dechrau'n Deg yn helpu teuluoedd sy'n byw yn rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae'n cynnig deuddeg awr a hanner yr wythnos o ofal plant o ansawdd uchel ar gyfer plant bach 2-3 oed; help i ddatblygu sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu plant; a gwasanaeth ehangach gan ymwelwyr iechyd.

Dyma rai o'r prosiectau fydd yn derbyn y cyllid:

  • 820,000 i Gyngor Sir Powys i greu cyfleusterau newydd ar safle presennol Ysgol y Priordy - Ysgol yr Eglwys yng Nghymru. Bydd y safle newydd yn cynnig gofal plant Dechrau'n Deg, lleoedd o dan y Cynnig Gofal Plant a safle ar gyfer swyddfa Dechrau'n Deg.
  • £365,000 i Gyngor Sir y Fflint ar gyfer Canolfan y Teulu Aston er mwyn codi uned fodiwlar newydd yn lle'r un presennol ac estyn y lle sydd ar gael o fewn y swyddfa. Bydd yn cynnig cyfleusterau ychwanegol y mae gwir eu hangen ac yn cynyddu'r lle sydd ar gael ar gyfer y tîm Dechrau’n Deg.
  • £150,000 i Gyngor Blaenau Gwent i ailfodelu, estyn a gwella'r cyfleusterau sydd ar gael ar gyfer Canolfan Dechrau’n Deg yng Nglynebwy . Bydd y lle ychwanegol yn cynyddu'n sylweddol nifer y rhieni a phlant all elwa ar y cyfleusterau Dechrau'n Deg yn yr ardal.
  • £83,500 i Gyngor Caerffili i wneud gwaith adeiladu ar brosiect Canolfan Blant Integredig Parc Y Felin. Bydd hyn yn cynnwys gwahanu'r neuadd bresennol er mwyn creu dwy ystafell y gellir eu defnyddio i fodloni'r galw am gyfleusterau ac i ddatblygu lle chwarae y tu allan.
  • £30,000 i gyngor Abertawe er mwyn creu cyfleusterau newid i blant yng Nghanolfan Dechrau’n Deg Craigfelen yng Nghlydach.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

"Mae Dechrau’n Deg yn gwneud gwahaniaeth positif i deuluoedd ledled Cymru. Bydd y symiau unigol o arian sy'n cael eu dyfarnu heddiw yn amrywio o ran eu maint ond byddant yn helpu i wella'r hyn all gael ei gyflawni yng nghanol cymunedau. Edrychaf ymlaen at weld y datblygiadau yn ystod y flwyddyn nesaf.”