Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'n dda gen i gyhoeddi bod ychydig yn llai na £3 miliwm o gyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru wedi'i ddyfarnu i 50 o brosiectau Dechrau’n Deg  ledled Cymru i helpu i wella, datblygu neu ymestyn y lleoliadau lle cynigir darpariaeth Dechrau’n Deg.

Mae'r cyllid hwn yn rhan o fuddsoddiad sylweddol a pharhaus yn seilwaith ein rhaglen arloesol ar gyfer y blynyddoedd cynnar a bydd yn galluogi Awdurdodau Lleol i greu cyfleusterau newydd, gwneud gwelliannau i adeiladau, gwneud atgyweiriadau hanfodol a chreu mynediad gwell yn ystod 2019-2020. Mae'r cyllid ychwanegol hwn yn golygu y bydd cyfanswm ein buddsoddiad cyfalaf yng nghynllun Dechrau'n Deg dros £65 miliwn ers 2006.

Mae Dechrau'n Deg yn helpu teuluoedd sy'n byw yn rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae'n cynnig deuddeg awr a hanner yr wythnos o ofal plant o ansawdd uchel ar gyfer plant bach 2-3 oed; help i ddatblygu sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu plant; a gwasanaeth ehangach gan ymwelwyr iechyd.

Rwy'n amgáu'r rhestr o brosiectau sydd wedi derbyn cyllid.

Edrychaf ymlaen at weld y datblygiadau yn ystod y flwyddyn nesaf.

Blaenau Gwent

  • £60k ar draws ei holl leoliadau Dechrau'n Deg (£6k i bob lleoliad)
  • £19,500 i Sofrydd Sunflowers yn Llanhiledd
  • £55,000 i First Friends yn Nhredegar
  • £150,000 i ganolfan Dechrau'n Deg yng Ngogledd Glynebwy

Pen-y-bont ar Ogwr

  • £17,000 i Dechrau'n Deg Betws

Caerffili

  • £83,500 i Ganolfan Blant Integredig Parc Y Felin
  • £77,875 i Ganolfan Dechrau'n Deg Trinant, Crymlyn
  • £11,125 i Ganolfan Dechrau'n Deg Graigyrhaca
  • gwaith gwerth £22,250 i wella pedwar adeilad modiwlar sy'n cynnal prosiectau Dechrau'n Deg yn y sir

Caerdydd

  • £8,000 i faes chwarae Drenewydd Gelli-farch
  • £10,000 i First Steps, Ysgol Gynradd Trelái

Sir y Fflint

  • £180,000 i Ganolfan Dechrau'n Deg Treffynnon
  • £365,000 i Ganolfan Deuluoedd Aston
  • £190,000 i ganolfan Dysgu Cymunedol Queensferry
  • £20,000 i Ysgol Gwynedd yn y Fflint

Gwynedd

  • £25,000 i Blas Ffrancon
  • £17,500 i Blas Ffrancon

Merthyr Tudful

  • £22,960 i Dwylo Bach

Sir Fynwy

  • £4,400 i Dechrau'n Deg Thornwell
  • £9,900 i Dechrau'n Deg West End

Castell-nedd Port Talbot

  • £8,000 i leoliad Dechrau'n Deg Tir Morfa
  • £6,500 i ganolfan Dechrau'n Deg Brynhyfryd

Casnewydd

  • £40,000 ar draws ystad Dechrau’n Deg

Powys

  • £820,000 i Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Priory
  • £292,300 i Open Door, cyn-ysgol gynradd Oldford

Rhondda Cynon Taf

  • £50,000 i Dechrau'n Deg Pontrhondda
  • £60,000 i Little Ferns yng Nghwmbach
  • £40,000 i Rachael's Playhouse
  • £40,000 i Gylch Chwarae Penrhiw-ceibr
  • £16,000 i First Steps, Dai Davies
  • £10,000 i Bentre'r Pengwins, Canolfan Hamdden Llanilltud Faerdref
  • £16,000 i Messy Monsters, Canolfan Gymunedol Gilfach Goch
  • £12,000 i Gylch Meithrin Ynyshir a Wattstown yn y Clwb Bowlio

Abertawe

  • £30,000 i Ganolfan Dechrau'n Deg Craigfelen
  • £26,500 i Ganolfan Dechrau'n Deg San Helen
  • £6,000 i Ganolfan Dechrau'n Deg Portmead
  • £9,500 i Ganolfan Dechrau'n Deg Gors
  • £8,500 i Ganolfan Dechrau'n Deg Hafod
  • £17,000 i Ganolfan Dechrau'n Deg Seaview
  • £6,500 i Ganolfan Dechrau'n Deg Townhill

Torfaen

  • £17,600 i Ganolfan Dechrau'n Deg Gorllewin Mynwy
  • £8,000 i Ganolfan Blant Integredig Pen-y-garn
  • £15,400 i Ganolfan Blant Integredig Cwmbrân
  • £7,000 i Ganolfan Blant Integredig Garnteg

Bro Morgannwg

  • £8,325 ar gyfer adnoddau cyfathrebu ar gyfer holl staff Dechrau'n Deg yr ardal

Wrecsam

  • £9,600 i Dechrau'n Deg Gwenfro
  • £11,500 i Dechrau'n Deg Heulfan
  • £17,900 i Idwal
  • £21,150 i Dechrau'n Deg Cherry Hill