Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 30 Ebrill 2019 cyhoeddais adroddiad Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd yn dilyn eu hadolygiad o wasanaethau mamolaeth cyn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf. Un o'r camau a gymerais ar unwaith oedd sefydlu Panel Trosolwg Annibynnol ar Famolaeth.

Bwriedir i’r panel hwn wneud y canlynol:

  • ceisio sicrwydd cadarn gan y bwrdd iechyd bod argymhellion yr adroddiad yn cael eu gweithredu yn erbyn cerrig milltir a gytunwyd
  • cytuno ar broses a sefydlu adolygiad clinigol amlddisgyblaethol annibynnol o'r achosion gwreiddiol a nodwyd yn ystod adolygiad y Coleg, ac edrych yn ôl at 2010 yn unol ag argymhelliad yr adolygiad
  • cynghori Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg am y camau sydd angen eu cymryd i sicrhau ymgysylltiad effeithiol â'r cyhoedd a'r defnyddwyr i wella gwasanaethau mamolaeth ac ailadeiladu hyder ac ymddiriedaeth
  • rhoi gwybod i mi am y cynnydd, gan gynnwys yr angen am unrhyw adolygiad dilynol a'i amseriad.

Rwyf am i fenywod a theuluoedd Cwm Taf gael eu cynnwys yn llawn mewn gwaith gyda'r panel i sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed ac i gyfeirio'r gwelliannau sydd eu hangen. Rwyf wedi gwahodd teuluoedd i adolygu'r Cylch Gorchwyl drafft a rhoi sylwadau arno er mwyn sicrhau bod y gwaith yn adlewyrchu'r hyn y dylid ei wneud yn eu barn nhw. Bydd y Cylch Gorchwyl ffurfiol yn cael ei gyhoeddi yn dilyn y cyfnod ymgynghori hwn.

Fel y dywedais yn fy natganiad blaenorol, rwyf wedi penodi Mick Giannasi i gadeirio'r Panel. Mae gan Mick brofiad helaeth ar draws y gwasanaethau cyhoeddus, mae'n gyn gadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Comisiynydd Cyngor Ynys Môn a Phrif Gwnstabl Heddlu Gwent. Bydd Mick yn cael ei gefnogi gan Aelod Panel Lleyg ac uwch arweinwyr bydwreigiaeth ac obstetreg (nad ydynt wedi gweithio o fewn GIG cyn hyn). Bydd cymorth clinigol ac arbenigol pellach yn cael ei geisio yn ôl y gofyn er mwyn helpu'r Panel i gyflawni ei brif nod strategol o sicrhau darpariaeth gynaliadwy o wasanaethau mamolaeth diogel, o ansawdd uchel i fenywod a theuluoedd Cwm Taf.

Bydd Cath Broderick, awdur yr adroddiad menywod a theuluoedd, yn parhau i drafod gyda theuluoedd fel Aelod Panel Lleyg. Mae Cath yn ymgynghorydd annibynnol sydd â phrofiad helaeth ym maes cysylltiad â chleifion a'r cyhoedd. Mae’n Gymrawd Anrhydeddus Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr, bu'n Gadeirydd eu Rhwydwaith Menywod rhwng 2011 a 2015 ac ar hyn o bryd mae'n Gadeirydd eu Pwyllgor Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Bydd gwaith Cath yn allweddol ar gyfer sicrhau bod y Panel Trosolwg, y Bwrdd Iechyd a Llywodraeth Cymru yn cysylltu â theuluoedd mewn ffyrdd sy'n bodloni eu dewisiadau a'u dyheadau personol.

Heddiw, rwy'n falch iawn o gyhoeddi bod yr arweinwyr bydwreigiaeth ac obstetreg wedi cael eu penodi. Bydd Mick a Cath yn cael cwmni'r uwch fydwraig Christine Bell a'r obstetregydd profiadol yr Athro Alan Cameron. Mae Christine wedi ymddeol o'i swydd fel Cyfarwyddwr Is-adran Gwasanaethau Plant a Menywod gydag Ymddiriedolaeth aciwt y GIG. Bu’n fydwraig am dros 30 mlynedd. Mae'n Asesydd Bydwreigiaeth ddynodedig gyda Choleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr ac wedi gweithio i'r Comisiwn Ansawdd Gofal fel Ymgynghorydd Arbenigol. Bydd profiad Christine o'i swyddogaethau blaenorol, gan gynnwys fel Pennaeth Bydwreigiaeth, yn dod ag arbenigedd clinigol a phrofiad rheoli i'r panel.

Mae gan yr arweinydd obstetreg, yr Athro Alan Cameron, 26 o flynyddoedd o brofiad fel Obstetregydd Ymgynghorol. Penodwyd Alan yn ddiweddar fel Arweinydd Clinigol Cenedlaethol mewn Obstetreg a Gynaecoleg ar gyfer Cydweithredfa Gwella Ansawdd Mamolaeth a Phlant yr Alban. Mae hefyd wedi gwasanaethu fel Is-lywydd Ansawdd Clinigol gyda Choleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr. Bydd profiad helaeth Alan mewn ymarfer ac ymchwil feddygol yn darparu trosolwg arbenigol i'r panel.

Mae Mick a Cath eisoes wedi dechrau ar eu gwaith, ac fe fydd y panel llawn yn cyfarfod am y tro cyntaf yr wythnos nesaf. Hoffwn ddiolch i holl aelodau'r panel am eu hyblygrwydd a'u hagwedd rhagweithiol tuag at y gwaith hanfodol bwysig hwn. Bydd y panel yn rhyddhau adroddiadau chwarterol i dawelu meddyliau cleifion a theuluoedd am y camau sy'n cael eu cymryd. Byddaf yn cyhoeddi’r adroddiadau hynny.

Rwy'n hyderus y bydd y panel a benodwyd gennyf yn sicrhau bod argymhellion y tîm adolygu yn cael eu rhoi ar waith yn gyflym ac yn drylwyr. Dylai pawb gael profiad cadarnhaol o wasanaethau'r GIG yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth, ac rwy'n falch bod y panel eisoes yn symud ymlaen i gynllunio'r ffordd orau o gefnogi hynny. Rwy'n benderfynol o sicrhau bod cynifer â phosib o fenywod a theuluoedd sy'n defnyddio gwasanaethau mamolaeth GIG Cymru yn gallu mwynhau'r achlysur llawen o ddathlu bywyd newydd, ac am wneud yn siŵr bod yr hyn aeth o'i le yn cael ei gywiro.