Daeth yr ymgynghoriad i ben 30 Awst 2019.
Crynodeb o’r canlyniad
Mae'r crynodeb o ymatebion bellach ar gael.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 620 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym yn awyddus ichi fynegi barn am y ddogfen ganllawiau ddiwygiedig ar gyfer ymarferwyr sy'n gysylltiedig â pharatoi a gweithredu cynlluniau lleol.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Diweddarwyd y Llawlyfr ar Gynlluniau Datblygu er mwyn ystyried y newidiadau mawr sydd wedi’u gwneud i ddeddfwriaeth gynllunio a pholisi cenedlaethol ers i Argraffiad 2 o'r Llawlyfr ar Gynlluniau Datblygu Lleol gael ei gyhoeddi yn 2015. Dyma'r newidiadau mwyaf:
- Deddf Cynllunio (Cymru) 2015:
- Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015:
- Polisi Cynllunio Cymru (PPC) (Argraffiad 10, Rhagfyr 2018).
