Neidio i'r prif gynnwy

Ni fydd Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru ar werth fel rhan o unrhyw gytundeb masnach newydd rhwng y DU a'r UDA ar ôl i Brydain ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, dywedodd Llywodraeth Cymru heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y Gweinidog Iechyd a'r Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol na fyddai GIG Cymru yn rhan o unrhyw gytundeb masnachu rhwng yr Unol Daleithiau a'r DU.

Dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, yn hwyrach heddiw ei fod yn disgwyl i wasanaethau iechyd Prydain fod "ar y bwrdd" mewn trafodaethau ar gytundeb masnach rhwng y DU a'r UDA yn y dyfodol ar ôl Brexit.

Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y GIG yng Nghymru.

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol, sy'n gyfrifol am polisi masnach:

"Mae Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn wasanaeth cyhoeddus, ac fe fydd hynny'n parhau dan y Llywodraeth hon.

"Rwy' wedi dweud yn gwbl glir wrth Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Liam Fox, bod rhaid parchu datganoli mewn unrhyw gytundeb masnach newydd ar ôl Brexit. Mae hynny'n cynnwys rheidrwydd ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i barchu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gadw'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol fel gwasanaeth cyhoeddus.

"Felly does dim gobaith o gwbl y byddwn ni'n caniatáu i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru fod yn rhan o unrhyw drafodaethau ar gytundeb masnach newydd gyda'r Unol Daleithiau. Dydy hynny ddim yn mynd i ddigwydd, a dyna ni."

Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething:

"Mae Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn wasanaeth cyhoeddus, ac fe fydd yn parhau i fod yn wasanaeth cyhoeddus tra bo’r Llywodraeth hon mewn grym yng Nghymru.

“Ac yng Nghymru, dan y llywodraeth hon, bydd yn parhau i fod yn wasanaeth gwerthfawr sy'n rhoi pobl - nid elw - yn gyntaf."