Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Rhagfyr 2017, cyhoeddais fy mwriad i gyflwyno cynllun i drwyddedu Arddangosfeydd Teithiol o Anifeiliaid yng Nghymru. Aed ati i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar sail papur a oedd yn amlinellu’r egwyddorion. Daeth 70 o ymatebion cynhwysfawr i law a chynhaliwyd cyfres o weithdai ar gyfer rhanddeiliaid ledled Cymru. Daeth 62 o unigolion, a oedd yn cynrychioli 41 o sefydliadau, i’r gweithdai hynny. Hoffwn ddiolch i bob unigolyn a sefydliad sydd wedi cynnig cyngor ac rwy’n falch o weld y gefnogaeth lethol a gafodd y polisi hwn.

Mae swyddogion wedi ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd yn drwyadl, yng ngoleuni newidiadau i ddeddfwriaeth yn y maes hwn, gan gynnwys fy mwriad i wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol, ac o ganlyniad, cytunais y dylid bwrw ymlaen i ddrafftio'r Rheoliadau. Yr hyn sydd wedi dod yn glir yw, os bydd y cynllun trwyddedu’n cael ei gyfyngu i arddangosfeydd teithiol, ei bod yn bosibl na fydd unrhyw fath o graffu ar safonau lles anifeiliaid sy'n cael eu defnyddio mewn rhai arddangosfeydd statig. Nid yw'r gwahaniaeth hwn yn dderbyniol. Rwyf felly wedi rhoi cyfarwyddyd i'm swyddogion estyn cwmpas y cynllun trwyddedu i gynnwys pob arddangosfa anifeiliaid sy'n bodloni meini prawf penodol, a fydd yn cael eu diffinio mewn cyfraith.

Disgwylir i ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar y Rheoliadau drafft a'r canllawiau atodol gael ei lansio cyn diwedd toriad yr haf. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod anifeiliaid yng Nghymru yn cael  byw bywyd o ansawdd uchel. Mae'r cynllun trwyddedu yn rhoi cyfle rhagorol i sefydlu safonau llesiant priodol a fydd, yn eu tro, yn hyrwyddo agweddau parchus a chyfrifol at anifeiliaid ac yn chwarae rhan mewn diogelu pobl sy'n mynd i’r arddangosfeydd hyn.