Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn gynharach heddiw, bûm yn siarad â Graham Hoare, Cadeirydd Ford UK. Rhoddodd wybod imi fod y cwmni'n bwriadu dechrau ymgynghori ynglŷn â chau ei ffatri injans ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym mis Medi 2020 a symud y gwaith o gynhyrchu ei injan Dragon i Fecsico.

Dywedais fy mod yn hynod siomedig am y penderfyniad ac esboniais yr effaith drychinebus y byddai hynny'n ei chael ar aelodau'r gweithlu a'u teuluoedd, ac ar y gadwyn gyflenwi ehangach a thref Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae ffatri Ford wedi bod yn rhan annatod o gymuned Pen-y-bont ar Ogwr ers bron pedwar degawd. Mae'r swyddi o ansawdd da a ddarparwyd yno, y busnesau y mae wedi'u cefnogi yn y gadwyn gyflenwi leol, a'r cyfleoedd y mae wedi'u cynnig i sawl cenhedlaeth o’r bobl leol, wedi bod yn hollbwysig. Mae wedi helpu i greu tref sy'n cael ei hadnabod am y diwydiant gweithgynhyrchu a’r sgiliau o'r radd flaenaf sydd ar gael yno, ac mae wedi gwneud cyfraniad aruthrol at economi Cymru. Yn ôl Asesiad Economaidd diweddar, mae gwaith caled y ffatri wedi cyfrannu dros £3.3 biliwn i economi Cymru dros y degawd diwethaf.

Mae'r newyddion heddiw yn siom enbyd ac rwy'n teimlo i'r byw dros y gweithlu a'r dref. Roeddent yn haeddu cymaint gwell oddi wrth gwmni y maen nhw wedi'i wasanaethu mor ffyddlon ers blynyddoedd lawer. Yn y cyhoeddiad hwn heddiw, safle Ford ym

Mhen-y-bont ar Ogwr yw'r unig un yn y DU sy'n cael ei dargedu ar gyfer ei gau neu ar gyfer diswyddiadau.

Yn union fel y gwnaeth Llywodraeth Cymru gadw cefn y cymunedau dur yn 2016, byddwn ni'n mynd ati unwaith eto i gadw cefn y bobl a'r dref yr effeithir arnyn nhw gan y newyddion hyn. Rwyf wedi dechrau heddiw ar y broses o sefydlu tasglu a fydd yn cydweithio â phartneriaid dros yr wythnosau a'r misoedd anodd nesaf hyn i ddod o hyd i ateb cynaliadwy, hirdymor ar gyfer y ffatri a'i gweithlu. Rydym yn bwrw ymlaen â'r gwaith hwn yn gyflym ac rwyf eisoes wedi cysylltu y bore 'ma ag unigolyn blaenllaw yn y sector modurol i ofyn iddo gadeirio'r tasglu. 

Dros y 24 awr ddiwethaf, rwyf wedi bod yn siarad â'r undebau, a gyda Greg Clark, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesi a Strategaeth Ddiwydiannol. Galwais ar Lywodraeth y DU i roi rhagor o gymorth i'r sector modurol drwy Strategaeth Ddiwydiannol y DU, er mwyn helpu i ddiogelu dyfodol hirdymor y diwydiant yn y DU drwy waith ymchwil a datblygu a thrwy fuddsoddi mewn sgiliau.

Mae symiau sylweddol o arian cyhoeddus ‒ cyfanswm o fwy na £143 miliwn ‒ wedi cael eu buddsoddi yn safle Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr ers 1978. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig dros £63 miliwn o gymorth ariannol uniongyrchol i gefnogi swyddi yn y ffatri ers 2006, yn ogystal â phecyn ehangach o gymorth ar ffurf hyfforddiant a seilwaith. 'Does dim dwywaith mai o ganlyniad uniongyrchol i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru y daeth y gwaith o gynhyrchu injan Dragon i Ben-y-bont ar Ogwr.

Fel pob cwmni arall sy'n gwneud cerbydau, mae Ford yn wynebu heriau byd-eang enfawr o ran y newid yn yr hinsawdd ac o ran technolegau amgen newydd. Mae'r gweithlu a'r ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gaffaeliad gwych i Ford ac rwy'n galw unwaith eto ar y cwmni i ailystyried y penderfyniad hwn wrth iddo ymateb i'r dyfodol hwnnw.

Hoffwn hefyd bwyso ar Lywodraeth y DU i ddeall bod y cyfnod hwn yn un hynod sensitif i ddiwydiannau fel yr un modurol, nid yn unig yma yng Nghymru ond ar draws y DU hefyd. Wrth i gwmnïau a chadwyni cyflenwi ehangach yn y sector hwnnw benderfynu sut i fynd i'r afael â'r heriau hirdymor hynny, ac wrth iddynt fynd ati i wneud cynlluniau buddsoddi hirdymor, mae angen sicrwydd arnynt ynghylch pa mor gystadleuol fydd economi'r DU yn y tymor hir. Mae hynny'n golygu, yn fwy nag erioed, bod angen bod yn synhwyrol wrth fwrw ymlaen â Brexit.