Daeth yr ymgynghoriad i ben 6 Hydref 2011.
Adolygu ymatebion
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn wrthi’n cael eu hadolygu. Pan fydd hyn wedi’i gwblhau, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniad.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich barn ar ganllawiau drafft a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Byd yn helpu Awdurdodau Lleol Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau’r GIG i roi Confensiwn yr Hag 1996 ar waith.
Mae’r Confensiwn yn cynnwys amrywiaeth eang o fesurau sifil trawswladol ar gyfer amddiffyn plant. Gall y gwledydd sy’n aelodau o’r Confensiwn ofyn i awdurdodau mewn gwledydd eraill wneud y canlynol:
- darparu cymorth i ddod o hyd i blentyn y mae pryderon ynghylch ei ddiogelwch;
- rhoi mesurau diogelu ar waith;
- darparu adroddiadau ar sefyllfa’r plenty.
