Daeth yr ymgynghoriad i ben 31 Awst 2012.
Adolygu ymatebion
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn wrthi’n cael eu hadolygu. Pan fydd hyn wedi’i gwblhau, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniad.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym yn gofyn am eich barn ar sut i wella cymwysterau a gymerwyd gan bobl ifanc 14 i 19 oed yng Nghymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae'n rhan o'r Adolygiad o Gymwysterau 14-19 sy'n ystyried sut y gallwn gyflawni cymwysterau gwerthfawr a dealladwy sy'n bodloni anghenion ein pobl ifanc ac economi Cymru. Mae'r papur hwn yn dynodi ac yn gwahodd safbwyntiau ar y prif faterion sydd wedi dod i'r amlwg hyd yma. Mae am glywed safbwyntiau ar rai cynigion ac opsiynau at y dyfodol.
Mae cymwysterau yn eu hanfod yn dechnegol ac mae manylion yn bwysig. Rydym ni felly wedi rhannu'r papur yn ddwy ran. Mae Rhan A ar gyfer pawb sy'n ymateb ac mae'n gosod y darlun mawr a chwestiynau allweddol. Mae Rhan B yn fwy manwl a thechnegol ac mae'n cynnwys cwestiynau ar nifer o feysydd penodol a fydd o ddiddordeb i arbenigwyr ac ymarferwyr. Anogir pawb i ateb Rhan A ac unrhyw gwestiynau yn Rhan B yr ydynt yn dymuno eu hateb ond nid oes disgwyl y bydd gan bawb sy'n ymateb farn am bob cwestiwn.
Gofynnir i chi ymateb i gwestiynau'r ymgynghoriad ar y ffurflen ymateb a ddarparwyd.
Bydd cyfle hefyd i unigolion gyflwyno eu barn yn bersonol i aelodau o Fwrdd yr Adolygiad yn ystod diwrnod tystiolaeth ar 11 Gorffennaf 2012 yng Ngholeg Powys yn y Drenewydd . Bydd hyn o werth yn benodol i unigolion sy'n ddysgwyr rheini cyflogwyr neu bobl sy'n gweithio mewn addysg na fyddent o bosibl yn cael cyfle fel arall i drafod eu barn yn uniongyrchol â'r Bwrdd. Os hoffech chi gymryd rhan gallwch ymgeisio drwy anfon ebost erbyn 15 Mehefin 2012 i reviewofquals@wales.gsi.gov.uk
Nodwch y geiriau 'diwrnod tystiolaeth' a'ch enw yn y llinell deitl. Caiff ceisiadau eu trin ar sail y cyntaf i'r felin a chewch wybod canlyniad eich cais erbyn 29 Mehefin 2012.
