Neidio i'r prif gynnwy
Yr Athro Peter Halligan

Cynghori Llywodraeth Cymru ar faterion gwyddonol ar draws adrannau.

Mae Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru yn:

  • darparu cyngor gwyddonol i'r Prif Weinidog, ei Gabinet a Llywodraeth ehangach Cymru
  • arwain, dylanwadu a chefnogi'r gwaith o osod blaenoriaethau gwyddonol Cymru
  • gweithio gydag arweinwyr polisi gwyddoniaeth, ymchwil ac arloesi ar draws Llywodraeth Cymru
  • arwain ar ddatblygu cynigion ar gyfer dull cydlynol a strategol o ymdrin â pholisi Gwyddoniaeth ac Ymchwil Llywodraeth Cymru
  • gweithio gydag arweinwyr polisi a gwyddoniaeth ar draws Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynigion ar rôl gwyddoniaeth ac ymchwil wrth fynd i'r afael â heriau byd-eang fel:
    • o newid yn yr hinsawdd,
    • o gofal iechyd pobl,
    • o diogelu ecosystemau,
    • o darparu cyflenwadau ynni cynaliadwy sy'n gysylltiedig â nodau datgarboneiddio.
  • hybu pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, (pynciau STEM)
  • gweithio gyda Phrif Gynghorydd Gwyddonol y DU ac ymwneud â Phrif Gynghorwyr Gwyddonol Adrannau Llywodraeth Prydain
  • bennaeth y proffesiwn i staff gwyddoniaeth a thechnoleg ar draws Cymru a Llywodraeth Cymru

Dyfarnwyd Baglor y Celfyddydau i Jas Pal Badyal ym 1985 ac enillodd radd PhD ym 1988 o Brifysgol Caergrawnt. Roedd ganddo Gymrodoriaeth Coleg y Brenin a Chymrodoriaeth Oppenheimer. Ym 1989 symudodd i Brifysgol Durham i ymgymryd â swydd darlithydd a chafodd ei ddyrchafu'n Athro Llawn ym 1996.

Caiff ei gydnabod yn rhyngwladol am ei ymchwil arloesol ar:

  • weithredoli arwynebau solet
  • arosod nanohaenau gweithredol.

Mae Jas Pal wedi dyfeisio llawer o arwynebau newydd ar gyfer cymwysiadau technolegol a chymdeithasol. Maent yn seiliedig ar ymchwil i fecanweithiau sylfaenol ac uwchraddio.  Mae enghreifftiau'n cynnwys:

  • gwrthfacterol
  • casglu niwl
  • catalyddu
  • arwynebau gwrthfaeddu
  • switsys optocirol
  • ffiltro
  • biosglodion
  • uwch wrthyrriant
  • nanoactifadu

Yr Athro Badyal yw’r pedwerydd Prif Gynghorydd Gwyddonol. Ei ragflaenwyr oedd:

  • yr Athro Peter Halligan o fis Mawrth 2018 i fis Chwefror 2022, seicolegydd a niwrowyddonydd nodedig
  • yr Athro Julie Williams, ymchwilydd blaenllaw i glefyd Alzheimer’s o fis Medi 2013 i fis Medi 2017
  • yr Athro John Harries, ffisegwr atmosfferig nodedig o fis Mai 2010 i fis Ebrill 2013