Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf yn falch o gyhoeddi bod y negodiadau ar gyfer contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (GMS) ar gyfer 2019-20 wedi dod i ben a bod cytundeb wedi'i wneud a fydd yn gweld £25miliwn yn cael ei buddsoddi mewn GMS eleni. Bydd cyllid pellach ar gael eleni i dalu am gostau cynyddol blwydd-daliadau.

Dros y 18 mis diwethaf rydym wedi parhau â'n rhaglen uchelgeisiol o ddiwygio'r Contract GMS. Mae'n dilyn dull newydd sy'n cael ei reoli drwy Grŵp Goruchwylio Contract y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, ac sy'n cael ei weithredu drwy gytundeb teirochrog sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru a GIG Cymru.  Fel yr unig wlad yn y DU i gynnwys y gwasanaeth iechyd yn llawn mewn gwaith ar ddiwygio'r contract, rwyf yn falch o weld y cydweddu a'r integreiddio cryf sydd wedi dod i'r amlwg o ganlyniad i'r dull teirochrog hwn.

Mae'r cylch hwn o negodiadau wedi bod yn heriol iawn ac rwyf yn cydnabod bod yr amser a gymerwyd wedi achosi anniddigrwydd o fewn y proffesiwn. Mae hyn yn adlewyrchu'r anhawster sydd ynghlwm wrth newid  contract sydd wedi bod ar waith ers 15 mlynedd a sicrhau newidiadau sy'n diwallu anghenion yr holl bartïon o dan sylw.  Rwyf yn credu y bydd y cytundeb sydd wedi'i wneud yn sicrhau'r buddsoddiad y mae ei fawr angen mewn gwasanaethau i wella cynaliadwyedd ac i hwyluso'r newidiadau angenrheidiol wrth ddarparu GMS. Rwyf yn falch y bydd y cytundeb hwn yn golygu y bydd gan feddygon teulu yng Nghymru werth uwch i bob claf fesul punt na'u cymheiriaid yn Lloegr, ynghyd â'r buddsoddiad sy'n cael ei wneud mewn mannau eraill.

I gefnogi'r gwaith o gyflawni nodau Cymru Iachach, mae cynyddu gwaith a lefel uwch o gynllunio a darparu gwasanaethau ar lefel clwstwr wedi bod yn flaenoriaeth graidd ar gyfer y rhaglen ddiwygio. Mae'r contract newydd yn cynnwys newidiadau sylweddol a fydd yn gweld y cam pendant hwn yn cael ei wireddu ar gyfer gweithgareddau penodol megis gwella ansawdd a gwasanaethau gwell, gan ddarparu cynaliadwyedd ar yr un pryd i GMS a gwell mynediad i wasanaethau a data.

Er mwyn cydnabod y newidiadau hyn, mae'r trefniadau cyllido canlynol wedi'u gwneud ar gyfer 2019/20.

  • Codiad o 3% yn elfen treuliau cyffredinol y contract ar gyfer treuliau cyffredinol.. 
  • Buddsoddiad o £9.2 miliwn ar gyfer gweithredu safonau mynediad i wasanaethau meddygon teulu y tu mewn i oriau arferol a gyhoeddwyd ar 20 Mawrth. 
  • Swm pellach o £3.765 yn mynd i'r Swm Cyffredinol eleni, i ariannu anghenion seilwaith practisau wrth weithio tuag at gyflawni safonau mynediad yn ystod oriau arferol.
  • Bydd buddsoddiad o hyd at £5 miliwn ar gael i hybu gweithio mewn partneriaeth fel y model a ffefrir ar gyfer GMS ac i annog meddygon teulu newydd i ysgwyddo rolau partner trwy gyflwyno Premiwm Partneriaeth newydd a fydd ar gael i'r holl feddygon teulu sy'n bartner ni waeth beth fo hyd eu gwasanaeth.

Ar y cyd â'r newidiadau ariannol, cytunwyd ar nifer o weithgareddau fel rhan o'r contract wedi'i ddiwygio a fydd yn adeiladu ar aeddfedrwydd a gweithrediad presennol clystyrau ledled Cymru ac yn dod ag eglurder i'r rôl sydd ganddynt yn y system gofal iechyd. Rydym wedi cymryd cwynion i ystyriaeth hefyd ynghylch y Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau (QOF) a'r pryderon yn y proffesiwn ynghylch effaith GDPR.

Mae'r newidiadau eleni'n cynnwys:

  • Gyda chanolbwynt clir ar gryfhau rôl clystyrau o safbwynt cydweithio i gynllunio a darparu gwasanaethau yn lleol, bydd yn ofynnol bellach i bractisau fod yn aelodau o glwstwr, trwy delerau'r contract craidd.
  • Gwell proses ar gyfer cynllunio clystyrau gyda dangosyddion pendant ar gyfer allbynnau a gweithgarwch yn cael eu cynnwys yn y Fframwaith Sicrwydd Ansawdd a Gwella (QAIF) newydd a gofyniad i'r gwaith o ddarparu Gwasanaethau Gwell gael ei gynllunio ar lefel clwstwr. Caiff y cyd-destun strategol ehangach a threfniadau llywodraethu Gwasanaethau Gwell eu hadolygu yn ystod 2019/20.
  • Gan roi sylw i'r pryderon ynghylch gwerth y dangosyddion QOF presennol, caiff hyn ei ddisodli gan Fframwaith Sicrwydd Ansawdd a Gwella (QAIF) diwygiedig sy'n canolbwyntio ar welliant. Bydd y Fframwaith yn cynnwys “basged” o brosiectau gwella Ansawdd i'w cyflwyno ar lefel clwstwr gyda chanolbwynt ar Ddiogelwch y Claf.
  • Caiff rheoliadau eu drafftio, yn gyson â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), er mwyn caniatáu ar gyfer rhannu data cleifion at ddibenion penodol.
  • Gan gydnabod yr anhawster y mae partneriaid yn ei wynebu ar yr adegau prin lle y bydd “Person Olaf yn Sefyll”, cafwyd cytundeb o ran cwmpas y dull gweithredu y bydd BILl yn ei ddefnyddio wrth roi cymorth i'r practisau hyn. Mae mangreoedd yn eu cyfanrwydd yn fater y mae angen ei ystyried ac mae ymrwymiad wedi'i wneud i ymgymryd â gwaith pellach yn 2019-20 i fynd i'r afael â'r materion ehangach a wynebir mewn Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol o ran mangreoedd.

Hoffwn achub y cyfle hwn i ddiolch i'r holl gydweithwyr yn GIG Cymru a Phwyllgor Meddygon Teulu Cymru am eu gwaith a'u hymrwymiad parhaus i'r rhaglen ddiwygio hon. Er bod cynnydd wedi'i wneud gyda nifer o eitemau, mae corff sylweddol o waith i'w wneud o hyd ar gyfer y flwyddyn i ddod ac rwyf yn ffyddiog y bydd y cydweithredu a welwyd eleni'n parhau ac y bydd o fudd inni yn y dyfodol.