Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 9 Medi 2013.

Cyfnod ymgynghori:
29 Gorffennaf 2013 i 9 Medi 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Adolygu ymatebion

Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Ymgynghoriad ar effeithiau posibl datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Sefydlwyd y Comisiwn annibynnol ar Ddatganoli yng Nghymru (Comisiwn ‘Silk’) gan Lywodraeth y DU ym mis Hydref 2011 i adolygu’r trefniadau ariannol a chyfansoddiadol presennol yng Nghymru.

Ym mis Tachwedd 2012 cyhoeddodd Comisiwn Silk ei adroddiad Rhan 1 - Grymuso a Chyfrifoldeb: Pwerau Ariannol i Gryfhau Cymru. Roedd yr adroddiad hwn yn ystyried sut i wella atebolrwydd ariannol y Cynulliad a Llywodraeth Cymru gan gynnwys yr achos dros ddatganoli pwerau ariannol.

Roedd yr adroddiad yn cynnwys 33 argymhelliad gan gynnwys yr argymhelliad bod 'Treth Tir y Doll Stamp yn cael ei datganoli i Lywodraeth Cymru a bod Gweinidogion Cymru yn cael rheolaeth dros bob agwedd ar y dreth yng Nghymru’.

Mae Llywodraeth y DU yn dymuno ymgynghori â busnesau ynghylch effeithiau posibl datganoli Treth Tir y Doll Stamp i’r Cynulliad cyn paratoi ymateb llawn i bob un o’r argymhellion yn adroddiad cyntaf y Comisiwn.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar GOV.UK