Neidio i'r prif gynnwy

Mae’n rhaid talu ardrethi busnes (ardrethi annomestig) ar y rhan fwyaf o eiddo annomestig, gan gynnwys:

  • siopau
  • swyddfeydd
  • tafarndai
  • stordai
  • ffatrïoedd
  • cartrefi rhentu gwyliau neu westai
  • meysydd parcio.

Mae’n debyg y bydd yn rhaid i chi dalu ardrethi busnes os ydych chi’n defnyddio adeilad neu ran o adeilad at ddibenion annomestig. Bydd eich cyngor lleol yn anfon atoch chi fil ar gyfer ardrethi busnes ym mis Chwefror neu ym mis Mawrth bob blwyddyn.

I gael rhagor o fanylion, gan gynnwys rhyddhad rhag talu ardrethi busnes, ewch i wefan Busnes Cymru.