Daeth yr ymgynghoriad i ben 10 Hydref 2013.
Adolygu ymatebion
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn wrthi’n cael eu hadolygu. Pan fydd hyn wedi’i gwblhau, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniad.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym eisiau clywed eich barn ar gwmpas yr asesiad hwn. Rhowch gymorth inni ddeall beth sydd angen inni ei ystyried a beth sy'n peri pryder o ran yr effaith ar yr amgylchedd.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae Asesiad Amgylcheddol Strategol yn helpu i ddatblygu polisïau sy’n arwain at ganlyniadau gwell i’r amgylchedd. Mae’r asesiad yn gallu annog newidiadau sy’n lleihau effeithiau niweidiol ar yr amgylchedd a gwneud y gorau o’r manteision. Bydd yr asesiad yn defnyddio dull rheoli ar lefel yr ecosystem fel bod y polisïau dŵr a ddatblygir yn ystyried iechyd a chydnerthedd yr amgylchedd a’r manteision i’r gymdeithas.
Mae angen yr asesiad o dan Reoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni 2004 (a elwir yn ‘Reoliadau Asesiadau Amgylcheddol Strategol’).
