Neidio i'r prif gynnwy

Mae dedfrydau llymach o garchar i'r rhai sy'n cam-drin anifeiliaid i ddod i rym yn dilyn cyflwyno deddfwriaeth newydd heddiw (dydd Mercher 26 Mehefin).

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Caiff y Bil (Dedfrydu) Lles Anifeiliaid ei gyflwyno yn y Senedd y Deyrnas Unedig heddiw ac mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i Senedd y DU ddeddfu i Gymru a Lloegr.

Bydd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig nawr yn cyflwyno Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer yr agweddau hynny ar y Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu a Chydnabod Dedfryd) sy'n berthnasol i Gymru.

Bydd y bil newydd yn golygu y gallai'r rhai hynny sy'n cam-drin anifeiliaid wynebu hyd at bum mlynedd o garchar, cynnydd sylweddol o'r uchafswm presennol o chwe mis. Bydd hyn yn ei wneud yn un o'r cosbau llymaf yn Ewrop.
 
Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

“Mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mae'r ffordd yr ydym yn trin anifeiliaid yn adlewyrchiad pwysig o werthoedd ein cymdeithas. Dylid amddiffyn anifeiliaid rhag poen, anaf, ofn a gofid a dylai'r rheini sy'n euog o achosi'r creulondeb mwyaf i anifeiliaid ddioddef cosbau llym.

“Mae Llywodraeth Cymru'n teimlo ei bod yn bwysig cadw trefn ddedfrydu gyson ar draws Cymru a Lloegr gan sicrhau eglurder i'r asiantaethau gorfodi, y Llysoedd a'r cyhoedd. Rydym felly wedi penderfynu cytuno bod Llywodraeth y DU yn deddfu trwy Ddeddf ar gyfer Cymru a Lloegr, ac yn cyflwyno cynnydd i bum mlynedd o garchar. Bydd hyn yn anfon neges glir nad yw pobl yn goddef creulondeb i anifeiliaid."