Daeth yr ymgynghoriad i ben 10 Rhagfyr 2014.
Adolygu ymatebion
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn wrthi’n cael eu hadolygu. Pan fydd hyn wedi’i gwblhau, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniad.
Ymgynghoriad gwreiddiol
This draft plan outlines our goals for the early years, childcare and play workforce and sets out how we propose to support this agenda.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Ymhen 10 mlynedd hoffem sicrhau gweithlu medrus iawn:
- sy’n uchel ei barch (ac yn yrfa ddeniadol)
- sy’n deall sut y mae plant yn dysgu ac yn datblygu
- sy’n strwythuro gweithgareddau ac amser er mwyn cefnogi pob plentyn i ddatblygu hyd eithaf ei allu
- sy’n awyddus i barhau i ddysgu
- sy’n ddwyieithog.
Mae’r cynllun drafft yn disgrifio’r modd y byddwn yn ceisio cefnogi unigolion a mynd i’r afael â’r anghenion o safbwynt datblygu gweithlu pob mathau o ddarparwyr blynyddoedd cynnar gofal plant a chwarae o fewn y sector a gynhelir a’r sector nas cynhelir.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn gwahodd sylwadau ynghylch y cynigion a gaiff eu hawgrymu yn y cynllun drafft ac yn gwahodd sylwadau ynghylch eu heffaith a’u manteision posibl.
