Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymroi i'r nod o gael gwared ar ddigartrefedd yng Nghymru. Atal digartrefedd yw ein prif strategaeth ond pan nad yw hynny'n bosibl rydym am sicrhau bod achosion o ddigartrefedd yn brin, yn fyrhoedlog ac nad ydynt yn digwydd eto.

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi'n sylweddol mewn atal digartrefedd a rhoi cymorth dros y blynyddoedd diweddar ac rydym wedi gwneud cynnydd ardderchog o dan ein deddfwriaeth ataliol ond rydym yn wynebu problem gynyddol ac mae rhaid i ni wneud mwy. Ni ddylid troi at y dyletswyddau yn Neddf Tai (Cymru) 2014 tan fod popeth arall posibl wedi ei wneud yn gyntaf, a dylem sicrhau bod pob gwasanaeth yn gweithredu yn ysbryd y ddeddf ac nid yn ôl llythyren y gyfraith yn unig. Gan wrando ar y rhai sy'n gweithio yn y sector a'r rhai sydd â phrofiad bywyd o ddigartrefedd, mae angen inni feddwl a gweithio'n wahanol os ydym am gyrraedd ein nod.

Mae digartrefedd yn golygu mwy na chysgu ar y stryd yn unig, er mai dyna'r math mwyaf argyfyngus o ddigartrefedd a dylai fod cywilydd arnom fod y fath beth yn bodoli yn ein gwlad gyfoethog. Mae angen dull system gyfan arnom o ddelio â digartrefedd o bob math, a hwnnw'n ddull sy’n canolbwyntio ar atal y broblem yn y lle cyntaf ac ailgartrefu pobl yn gyflym. Rhaid i'n dull gweithredu gael ei lywio gan y rheini â phrofiad bywyd o ddigartrefedd a rhaid sicrhau bod yr unigolyn yn ganolog i bopeth gan bob gwasanaeth a bod gwasanaethau'n gweithio gyda'i gilydd mewn dull sy'n cael ei lywio yn ei dro gan ymwybyddiaeth o effaith trawma. Mae mynd i'r afael â digartrefedd a'i atal yn broblem i'r gwasanaethau cyhoeddus yn gyffredinol, yn hytrach nag yn 'broblem tai' a dylid gweithredu'n unol â'r meddylfryd hwnnw. 

Er mwyn ein helpu i gyflawni'r newid sydd ei angen rydw i wedi gwahodd Jon Sparkes, Prif Weithredwr Crisis, i gadeirio grŵp bach o arbenigwyr a meddylwyr arloesol mewn Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd. Rydw i wedi'u gwahodd i ystyried y camau y mae angen inni eu cymryd fel cenedl i greu cyd-destun polisi ar gyfer cyflawni ein nod o gael gwared ar ddigartrefedd.

Grŵp gorchwyl i Lywodraeth Cymru fydd y Grŵp Gweithredu, a bydd yn adrodd yn ôl i Weinidogion Cymru. Bydd yn gweithio'n annibynnol i ddarparu argymhellion polisi ynghylch y camau gweithredu a'r atebion y mae eu hangen i fynd i'r afael â'r cwestiynau a ganlyn:

  1. Pa fframwaith o bolisïau, dulliau gweithredu a chynlluniau y mae ei angen i ddod â digartrefedd i ben yng Nghymru? (Beth y mae dod â digartrefedd i ben yn ei olygu yn ymarferol?))
  2. Pa gamau y gallwn eu cymryd ar unwaith i leihau achosion o gysgu ar y stryd rhwng nawr a gaeaf 2019/20, ac i ddod â chysgu ar y stryd i ben yn gyfan gwbl?
  3. Sut y gallwn roi blaenoriaeth i ailgartrefu dioddefwyr yn gyflym ac yn barhaol wrth inni fynd ati i atal, taclo a chael gwared ar ddigartrefedd?
  4. Sut gallwn ni sicrhau bod cynlluniau a phartneriaethau lleol cydgysylltiol yn cael eu rhoi ar waith i atal, i daclo ac i gael gwared ar ddigartrefedd ledled Cymru?

Er mwyn gweithredu mor gyflym â'r gofyn, bydd y grŵp yn cyfarfod 12 gwaith rhwng Mehefin 2019 a Mawrth 2020, gan adrodd yn ôl wrth Lywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod hwn. Mae cyfarfod cyntaf y grŵp yn digwydd heddiw, dydd Gwener 28 Mehefin.

Byddaf yn darparu'r newyddion diweddaraf ichi am hynt y Grŵp Gweithredu i Aelodau ac am ddeilliannau'r grŵp a'r camau dilynol y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo.