Neidio i'r prif gynnwy

Er mwyn datblygu cynigion ar gyfer dyletswyddau cydraddoldeb penodol a fydd yn berthnasol yng Nghymru, bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal 'Ymarfer Gwrando' dros yr haf gyda'i phrif randdeiliaid.

Dechreuodd yr ymarfer hwn ddydd Llun 27 Gorffennaf 2009 a daeth i ben ddydd Llun 16 Tachwedd 2009.

Drwy gydol y cyfnod hwn, cafodd cyfres o ddigwyddiadau a chyfarfodydd eu cynnal, gan roi cyfle i randdeiliaid ddweud wrthym sut dylid datblygu dyletswyddau cydraddoldeb penodol yn y sector cyhoeddus yma yng Nghymru.

Er mwyn helpu i lywio’r drafodaeth hon, rydym wedi amlinellu rhai syniadau cychwynnol ynghylch y meysydd lle gallai'r dyletswyddau hyn wneud cyfraniad cadarnhaol yn ein dogfen drafod "Hyrwyddo cydraddoldeb ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru".

Yn 2009, comisiynodd Llywodraeth Cymru ymchwil ynghylch sut y gellid llunio dyletswydd benodol ar gyfer awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru mewn perthynas â chyflog cyfartal rhwng dynion a menywod o fewn y sector cyhoeddus.  Gellir gweld yr ymchwil hon trwy agor yr atodiad isod a dylid ei darllen ar y cyd â'r ddogfen drafod Hyrwyddo Cydraddoldeb ar draws y Sector Cyhoeddus yng Nghymru a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2009.

Mae'r adroddiad isod yn crynhoi'r cyfraniadau a dderbyniwyd gennym yn ystod yr ymarfer. Ar sail y cyngor hwn a'r ymchwil a gasglwyd, mae'r Gweinidog dros Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi gofyn i swyddogion ddatblygu cynigion polisi manwl ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Disgwylir i'r cynigion hyn gael eu cyhoeddi ddiwedd y gwanwyn.

Adroddiadau

Y Mesur Cydraddoldeb: adroddiad ar ganlyniadau’r ymarfer gwrando , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 119 KB

PDF
119 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.