Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AC, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn unol â'r amserlen ar gyfer paratoi y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, fy mwriad oedd dechrau ar ymgynghoriad 12 wythnos ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft yn ystod yr wythnos nesaf.

Yng ngoleuni'r ffaith bod is-etholiad ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed ar 1 Awst 2019, rwyf wedi penderfynu peidio dechrau ar yr ymgynghoriad yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad. Bydd yr ymgynghoriad ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn dechrau felly ym mis Awst ar ôl yr is-etholiad.

Rydym wedi ymrwymo o hyd i gyhoeddi'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol ar gyfer yr ymgynghoriad cyn gynted â phosib. Bydd y Fframwaith yn sefydlu ble yng Nghymru y dylid canolbwyntio ar dwf strategol a'r seilwaith sydd ei angen arnom i gyflawni ein huchgelgais ar gyfer Cymru sy'n iachach, yn decach ac yn fwy llewyrchus. Bydd ganddo hefyd swyddogaeth allweddol o fynd i'r afael â'r argyfwng newid hinsawdd yr ydym yn ei wynebu.

Byddaf yn cysylltu â phob AC i'ch hysbysu o'r dyddiadau ymgynghori hyn cyn gynted ag y byddaf yn eu cadarnhau ac rwyf am annog pawb i ymateb i'r ymgynghoriad. Byddaf hefyd yn cyhoeddi diwygiadau i’r Datganiad Cyfranogiad y Cyhoedd.