Neidio i'r prif gynnwy

Bydd hanner cant o deuluoedd o Somaliland yn cael cefnogaeth i sefydlu gwenynfeydd sy'n creu elw drwy werthu mêl yn lleol ac allforio cwyr gwenyn i Gymru, a hynny gyda diolch i gyllid gan raglen Cymru o blaid Affrica, Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cwyr gwenyn, sy'n sgil-gynnyrch cadw gwenyn, yn cael ei ddefnyddio i greu canhwyllau artisan gan aelodau o gymuned Somaliland yng Nghymru a'i werthu o'u siop, Bees for Development yn Nhrefynwy.

Mae'r sefydliad Bees for Development, sydd wedi'i leoli yng Nghymru, wedi cael cyllid gwerth £15,000 drwy raglen Cymru o Blaid Affrica, Llywodraeth Cymru i hwyluso'r prosiect. Mae'n gweithio gyda sefydliad partner yn Ethiopia i ddarparu hyfforddiant mewn sgiliau Cadw Gwenyn yn Somaliland.

Gan fod llawer o sychder yn y wlad, mae llawer o anifeiliaid yn marw. Ond mae cadw gwenyn yn ffynhonnell werthfawr arall o incwm i gefnogi teuluoedd a chodi arian i brynu rhagor o anifeiliaid. Amcangyfrifir y bydd 300 o bobl yn elwa ar y prosiect.

Dyma un o un ar ddeg prosiect Cymru-Affrica sydd wedi derbyn cyllid drwy Gynllun Grant Cymru o blaid Affrica, Llywodraeth Cymru.

Mae'r cynllun grant yn fenter flaengar gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gwaith partneriaeth rhwng Cymru ac Affrica. Mae'n galluogi grwpiau a sefydliadau cymunedol ledled Cymru i gael cyllid ar gyfer prosiectau bach yng Nghymru ac yn Affrica sy'n cael effaith gadarnhaol ar y ddwy wlad.

Yn y rownd ddiweddaraf yma, mae cyllid gwerth £131,380 wedi cael ei ddyfarnu i brosiectau ar gyfer y pedair thema ganlynol: iechyd, bywoliaeth gynaliadwy, dysgu gydol oes, a'r newid yn yr hinsawdd a'r amgylchedd.

Ceir amrywiaeth gyffrous o wahanol brosiectau, yn cynnwys prosiect sy'n rhedeg clinigau brechu symudol yn Uganda i helpu i frechu plant rhag afiechydon sy'n peryglu bywydau, prosiect yn Tanzania sy'n anfon peiriannau gwnïo wedi'u hatgyweirio gan wirfoddolwyr o Gymru i grwpiau o fenywod a fydd wedyn yn eu defnyddio i sicrhau bywoliaeth gynaliadwy drwy wneud a thrwsio defnydd a dillad.

Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru:

“Mae ein Cynllun Grant Cymru o blaid Affrica wedi mynd o nerth i nerth drwy gefnogi cymunedau alltud yng Nghymru a meithrin cysylltiadau ag Affrica Is-Sahara. Mae'r grantiau hyn yn helpu i drawsnewid bywydau degau o filoedd o bobl o bob rhan o'r cyfandir prydferth ac amrywiol hwn bob blwyddyn. 

“Rydw i'n falch ein bod yn parhau i feithrin cysylltiadau rhwng Cymru ac Affrica sydd nid yn unig yn helpu i wella bywydau yn Affrica, ond hefyd yn dod â budd enfawr i Gymru drwy roi cyfle i wirfoddolwyr gyfnewid sgiliau a chael profiadau sy'n newid eu bywydau nhw hefyd.

"Mae ein rhaglen Cymru o blaid Affrica yn arwydd o'n hymrwymiad cryf i wneud Cymru yn wlad sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang."

Bydd yr un ar ddeg prosiect llwyddiannus yn gweithio ar draws Gogledd, De a Chanolbarth Cymru, mewn partneriaeth â nifer o wledydd Affrica, gan gynnwys Ethiopia, Lesotho, Nigeria, Uganda, Zimbabwe, Malawi, Somaliland a Tanzania.

Mae disgwyl y bydd Cynllun Grant Cymru o blaid Affrica yn agor i dderbyn ceisiadau eto ym mis Gorffennaf ar gyfer grantiau bach rhwng £500 a £4,999. Disgwylir y bydd y broses ymgeisio am grantiau rhwng £5,000 a £15,000 yn ail-agor yn gynnar yn 2020.