Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AC, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Sefydlwyd Cymwysterau Cymru o dan Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 a daeth yn gyfrifol am reoleiddio cyrff dyfarnu a sicrhau ansawdd cymwysterau a ddarperir yng Nghymru, ac eithrio graddau.

Mae gan y Bwrdd swyddogaeth bwysig yn y gwaith o sicrhau'r canlynol mewn perthynas â Chymwysterau Cymru:

  • ei fod yn cael ei arwain yn effeithiol
  • bod ganddo drywydd strategol clir a phendant;
  • ei fod yn gweithredu'n effeithlon ac yn unol â'i nodau, ei amcanion a'i dargedau.

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi fy mod wedi penodi David Jones OBE yn gadeirydd Cymwysterau Cymru pan ddaw cyfnod y Cadeirydd presennol, Ann Evans, i ben ym mis Medi 2019.

Mae gan David dros 30 mlynedd o brofiad o weithio ym meysydd Addysg Bellach ac Uwch. Fe'i penodwyd yn Bennaeth/Prif Weithredwr Coleg Glannau Dyfrdwy yn 2004 ac mae wedi arwain tair proses uno a arweiniodd yn y pen draw at greu Coleg Cambria yn 2013. Mae penodiadau allanol David ar hyn o bryd yn cynnwys cadeirio Bwrdd Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy, mae hefyd yn cadeirio bwrdd newydd AMRC Cymru a Phwyllgor Gogledd Cymru o Gydffederasiwn Diwydiant Prydain, ac mae'n Is-gadeirydd grŵp Collab, sef grŵp o golegau blaenllaw y DU. Mae David hefyd yn aelod o Grŵp Cynghori ar Ewrop Llywodraeth Cymru.

Nodiadau

Gwnaed y penodiad hwn yn unol â Chod y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus ar Benodiadau gan Weinidogion i Gyrff Cyhoeddus.

Y taliad cydnabyddiaeth yw £337 y dydd, yn seiliedig ar ymrwymiad amser o hyd at bum diwrnod y mis. Dyma ail Benodiad Gweinidogol David Jones.

Gwneir pob penodiad ar sail teilyngdod ac nid yw gweithgarwch gwleidyddol yn chwarae unrhyw ran yn y broses ddethol.   Fodd bynnag, yn unol ag argymhellion gwreiddiol Nolan, os yw penodeion yn datgan eu bod yn ymwneud â gweithgarwch gwleidyddol, mae'n ofynnol gwneud yr wybodaeth honno'n gyhoeddus.  Nid yw'r penodai i Fwrdd Cymwysterau Cymru wedi datgan unrhyw weithgarwch gwleidyddol.