Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu rhoi hwb gwerth £18 miliwn i bartneriaid Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn fuan, i ddechrau ariannu nifer o brosiectau trawsnewidiol yn ne-orllewin Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Byddai'r cyllid, sy'n ddibynnol ar fodloni telerau ac amodau terfynol, yn cyfrannu at raglen hirdymor o fuddsoddi sy'n cynnwys ar hyn o bryd brosiectau mawr  ledled Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Abertawe a Sir Benfro.

Mae'r £18 miliwn yn darparu cyfle i gyflawni yn erbyn holl raglen y Fargen Ddinesig. Hefyd mae'n bosibl y bydd £18 miliwn arall ar gael eleni ar gyfer prosiectau eraill o fewn y fargen, yn ddibynnol ar y rhanbarth yn bodloni telerau ac amodau clir.

Mae'r cyllid cychwynnol ar gyfer y cyntaf o'r tri chynllun hyn, sy'n cael eu harwain gan yr awdurdodau lleol sy'n gyfrifol,  yn seiliedig ar  gymeradwyaeth ar gyfer achosion busnes ar gyfer Canolfan Creadigol a Digidol yr Egin a phrosiectau Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:

"Dw i'n benderfynol o sicrhau y bydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn arwain at dwf economaidd a newid gwirioneddol ar gyfer cymunedau de-orllewin Cymru, a dw i wrth fy modd y bydd Llywodraeth Cymru yn rhyddhau cyllid yn fuan i roi hwb i'r rhaglen uchelgeisiol hon.

"Bydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn nodi newid diwylliannol ar gyfer y rhanbarth, gan godi hyder yn yr ardal, creu miloedd o swyddi o ansawdd uchel a rhoi hwb ariannol enfawr am flynyddoedd lawer.

Mae prosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau yn cynnwys arena ddigidol fodern o dan do ac ynddi le ar gyfer 3,500 o bobl. Bydd yr arena yn elwa ar gysylltedd o'r radd flaenaf, a disgwylir iddi agor yn gynnar yn 2021. Bydd plaza digidol yn cael ei adeiladu hefyd y tu allan i'r arena, a fydd y cynnwys gwaith celf ddigidol a nodweddion digidol eraill.

Mae agweddau eraill ar y prosiect yn cynnwys pentref 28,000 o droedfeddi sgwâr, ac ardal arloesi 64,000 o droedfeddi sgwâr ar gyfer busnesau newydd ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn SA1. Bydd pentref digidol 100,000 o droedfeddi sgwâr hefyd yn cael ei adeiladu ar Kingsway, gan ddarparu mannau gweithio arloesol ar gyfer cwmnïau sy'n arbenigo mewn technoleg ddigidol.

Mae canolfan yr Egin yng Nghaerfyrddin, ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae ail gyfnod o waith bellach wedi'i gynllunio, yn dilyn llwyddiant y cyfnod cyntaf sydd eisoes wedi rhoi cartref i bencadlys newydd S4C a llawer o fusnesau eraill yn y sector creadigol.

Dywedodd y Cyng Rob Stewart, Cadeirydd Cydbwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe:

“Er ein bod yn croesawu’n fawr yr arian sy’n cael ei ryddhau, mae cynghorau a phartneriaid y Fargen Ddinesig wedi bod yn ymroi i ddarparu’r ddau brosiect sy’n cael eu cymeradwyo heddiw.  Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i’r prosiectau ac i’r Fargen Ddinesig ei hun.

“Bydd prosiectau Abertawe a’r Egin yn creu canolfan adloniant o’r radd flaenaf i bobl y De-orllewin ac yn rhoi’r lleoedd a’r cyfleusterau sydd eu hangen ar dalentau creadigol, technegol ac entrepreneuraidd lleol i ffynnu. Mae’n fwriad gennym hefyd i roi prosiectau eraill y Fargen Ddinesig ar waith i sicrhau bod rhagor o arian yn cael ei ryddhau cyn gynted â phosibl.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd y ddwy Lywodraeth yn cydweithio’n glos â ni i gymeradwyo’r prosiectau hyn er lles trigolion a busnesau Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Chastell-nedd Port Talbot.

“Bydd datblygiadau’r Fargen Ddinesig yn gatalydd ar gyfer rhagor o fuddsoddi a thwf economaidd, gan sbarduno miloedd o swyddi breision i bobl leol.

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei harwain gan Gyngor Sir Gâr, Cyngor Abertawe, Cyngor Castell Nedd Port Talbot a Chyngor Sir Penfro, mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae’r rhaglen o fuddsoddiadau’n cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, a’r sector cyhoeddus a'r sector preifat.

Dros y 15 mlynedd nesaf disgwylir y bydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn rhoi hwb gwerth £1.8 biliwn i'r economi ranbarthol, a chreu dros 9,000 o swyddi o ansawdd uchel.