Neidio i'r prif gynnwy

Cafodd Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer rhwystro plant rhag cael eu cam-drin yn rhywiol ei gyhoeddi heddiw (15 Gorffennaf) gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r cynllun yn gosod fframwaith cyfreithiol newydd ar gyfer cryfhau trefniadau diogelu, er mwyn ei gwneud yn haws amddiffyn pobl sydd mewn perygl, fel rhan o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Wrth lunio'r cynllun gweithredu, rhoddwyd ystyriaeth i dystiolaeth gan blant, yn ogystal â thystiolaeth gan oedolion sy'n oroeswyr. Hefyd cynhaliwyd trafodaethau gan y Grŵp Trawsbleidiol ar Rwystro Plant rhag cael eu Cam-drin yn Rhywiol, a chafwyd tystiolaeth gan yr Independent Inquiry into Child Sexual Abuse (IICSA).

Prif nod y cynllun yw codi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd - drwy sicrhau bod gan blant yr wybodaeth berthnasol am sut i ddweud wrth rywun, a pharatoi'r oedolion sy'n rhan o fywydau plant ar gyfer bod yn barod i wrando. Bydd hyn yn helpu i atal cam-drin, ac i amddiffyn plant. 

Mae'r cynllun yn amlinellu hyfforddiant pellach i ymarferwyr er mwyn sicrhau bod ganddynt y sgiliau perthnasol. 

Hefyd heddiw, lansiodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, ymgynghoriad newydd ar ganllawiau statudol i amddiffyn plant rhag cam-fanteisio rhywiol.  Mae'r ymgynghoriad yn ceisio sylwadau ar ddulliau gweithredu y gellid eu defnyddio i atal cam-drin, drwy amddiffyn a chefnogi plant. Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 7 Hydref.

Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy  Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Fe all cam-drin rhywiol ddinistrio cyfnod plentyndod unigolion, a chael effaith ddifrodus ar weddill eu bywydau. Rhaid inni weithio gyda'n gilydd i wneud popeth o fewn ein gallu i rwystro plant rhag cael eu cam-drin yn rhywiol, i amddiffyn plant sydd mewn perygl, ac i helpu plant i wella o'r niwed sylweddol y mae cam-drin rhywiol yn ei achosi. 

“Mae'n amlwg imi nad oes lle i beidio â gweithredu, a bod yr angen i rwystro plant ac oedolion rhag cael eu cam-drin a’u niweidio yn parhau'n un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid. Mae 'r cynllun a’r canllawiau newydd wedi ystyried tystiolaeth gan y plant eu hunain ac oedolion sy 'n goroesi a hoffwn ddiolch iddynt am eu dewrder wrth ein helpu.