Neidio i'r prif gynnwy

Bydd pobl Sir Conwy yn cael gwneud cais i gael tocynnau am ddim i'r Eisteddfod Genedlaethol ar gyfer y dydd Sul agoriadol eleni, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr Eisteddfod, sy'n dechrau ar 2 Awst, yn defnyddio’r arian i gynnig tocynnau am ddim i 6,000 o bobl leol nad ydynt hwyrach wedi bod i'r Eisteddfod o'r blaen. Felly, os ydych chi’n un ohonynt, dyma’ch cyfle i gael y profiad o fynychu un o wyliau diwylliannol mwyaf Cymru ar Awst 4.

Gobaith yr Eisteddfod yw y bydd yr £50,000 hwn yn ei helpu i ddenu ymwelwyr newydd fel y gwaeth yn Eisteddfod 2018 yng Nghaerdydd, pan ymwelodd miloedd â hi am y tro cyntaf i gymryd rhan mewn gweithgareddau Cymraeg.

Wrth gyhoeddi'r arian, dywedodd Gweinidog y Gymraeg yn Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan:

“Dyma gyfle gwych i bobl Sir Conwy ymuno yn y digwyddiad cyffrous hwn sy'n dathlu Cymru.

“Mae gan Lywodraeth Cymru gynllun uchelgeisiol i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050. Er mwyn cyrraedd y nod, rhaid inni greu cyfleoedd i bobl glywed yr iaith a'i defnyddio yn eu bywydau bob dydd ac mewn pob math o leoliadau cymdeithasol.

“Bydd yr arian dw i'n ei gyhoeddi heddiw yn golygu y bydd teuluoedd lleol yn gallu mynd i ddydd Sul agoriadol yr ŵyl am ddim. Dw i'n gobeithio y bydd hyn yn gyfle iddyn nhw fwynhau diwylliant Cymru, ac efallai mewn rhai achosion newid eu syniadau o beth ydy'r Eisteddfod – sef cyfle i ddathlu Cymru, ei phobl, a'i thraddodiadau diwylliannol.”

Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses:

“Mae'r Eisteddfod yn ddigwyddiad cynhwysol sy'n cynnig cyfle ffantastig i bobl o bob cefndir gael profiad o'r Gymraeg ar waith. Felly rydyn ni'n awyddus i fachu ar bob cyfle i gyflwyno'r digwyddiad, a'r profiadau y mae'n eu cynnig, i bobl newydd.

"Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am y gefnogaeth y mae'n ei rhoi i'r Eisteddfod, ac yn enwedig y tro hwn am y gefnogaeth i'n hymdrechion i agor y drysau a chroesawu hyd yn oed mwy o bobl i deulu mawr yr Eisteddfod Genedlaethol.

"Byddwn ni'n trafod ffyrdd addas o ddosbarthu'r tocynnau gyda phartneriaid perthnasol.  Ein nod yw sicrhau bod cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Conwy yn gyfle i deuluoedd ddod yn fwy cyfarwydd â’r Gymraeg a'r diwylliant sy'n gysylltiedig â hi.”