Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths - Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Lansiais ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Chwefror ar werthu cŵn a chathod bach gan drydydd partïon yng Nghymru.  

Mae pryderon y gallai gwerthu cŵn a chathod bach yn fasnachol gan drydydd partïon fod yn gysylltiedig â gwaeth amodau lles i'r anifeiliaid o gymharu â phrynu'n uniongyrchol oddi wrth y bridiwr. Er enghraifft, wrth i’r cŵn neu'r cathod bach gael eu rhoi mewn sawl amgylchedd newydd ac anghyfarwydd, ac oherwydd ei bod yn fwy tebygol y byddant yn gorfod wynebu sawl siwrnai, gallai hynny olygu bod mwy o risg iddynt ddal clefydau ac na fydd y cŵn neu'r cathod bach yn cael eu cymdeithasoli nac yn ymgyfarwyddo â'i gilydd.

Roedd yr ymgynghoriad, a ddaeth i ben, ar 17 Mai, hefyd yn ceisio barn am faterion ehangach sy'n gysylltiedig â bridio cŵn a chathod. Bydd crynodeb o'r ymatebion yn cael ei gyhoeddi heddiw, 18 Gorffennaf.

Daeth 458 o ymatebion i law. Mae hyn y dangos bod gan y cyhoedd deimladau cryf am y mater hwn. Hoffai mwyafrif llethol yr ymatebwyr weld diwedd ar werthu cŵn a chathod bach gan drydydd partïon yng Nghymru. Thema arall a gododd dro ar ôl tro hefyd oedd yr angen i  wneud mwy i wella lles cŵn a chathod ar bob safle bridio yng Nghymru. 

Yn ogystal â phryderon am amodau ar safleoedd bridio, dryswch ynglŷn â'r system bresennol, a'r adnoddau sydd ar gael i orfodi'r rheolau, tynnodd yr ymatebwyr sylw hefyd at broblemau gyda gwerthu ar-lein, prynu ar fympwy, ac atebolrwydd bridwyr.  Cyfeiriwyd hefyd at fewnforio cŵn bach yn anghyfreithlon.

Ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad a'r galwadau i wella'r system bresennol, rwyf yn bwriadu cyflwyno gwaharddiad ar werthu cŵn a chathod bach gan drydydd partïon. Gan gydnabod na fydd gwaharddiad ar werthu cŵn a chathod bach gan drydydd partïon yn ddigon ynddo'i hun i fynd i'r afael â'r holl bryderon a ddaeth i'r amlwg yn ystod y broses ymgynghori, rwyf hefyd yn bwriadu ailedrych ar y rheoliadau bridio presennol er mwyn gwella amodau lles mewn sefydliadau bridio, ac ystyried sut i helpu'r cyhoedd i wneud dewisiadau mwy deallus wrth brynu anifail anwes. Bydd angen paratoi asesiadau effaith rheoleiddiol ar gyfer y ddau beth hyn, ynghyd â chynnal ymgynghoriad cyhoeddus llawn arall ar y diwygiadau arfaethedig. 

Rydym yn parhau i gydweithio'n agos â rhanddeiliaid ac asiantaethau gorfodi i gael effaith barhaol ar safonau lles ar gyfer cŵn a chathod sy'n cael eu bridio yng Nghymru.