Neidio i'r prif gynnwy

Bydd yr awdurdodau lleol yng Nghymru yn derbyn cyllid ychwanegol i uwchraddio offer Technoleg Addysg mewn ysgolion.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fel rhan o'r rhaglen fuddsoddi fwyaf yn y maes digidol ar gyfer ysgolion yng Nghymru, mae Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol o £50m yn ystod y flwyddyn ariannol hon i ehangu Hwb – rhaglen Llywodraeth Cymru i wella'r defnydd o dechnoleg ddigidol ar gyfer addysgu a dysgu mewn ysgolion.

Caiff y cyllid ei ddefnyddio i sicrhau bod gan ysgolion offer Technoleg Addysg newydd, er mwyn iddynt allu cael gwell dealltwriaeth o seilwaith digidol Cymru.

Bydd hynny'n sicrhau bod pob ysgol yn gweithio tuag at Safonau Digidiol Addysg sydd wedi'u cyhoeddi ar Hwb. Bydd hefyd yn gosod y sylfeini ar gyfer seilwaith addysg ddigidol sy'n gynaliadwy.

Yn ychwanegol, bydd y rhaglen yn golygu y bydd llai o fiwrocratiaeth i ysgolion, gan ryddhau amser i athrawon a phenaethiaid. Bydd hefyd yn golygu y bydd dysgwyr yn gallu manteisio ar brofiadau dysgu gwell a mwy cyson.

Yr awdurdodau lleol fydd yn gwasanaethu fel y partner cyflenwi strategol ar gyfer y rhaglen. Byddant yn defnyddio'r cyllid yn briodol yn eu hardaloedd i sicrhau bod pob ysgol a gynhelir yng Nghymru yn cael eu huwchraddio yn unol â'r safon genedlaethol.

Yn ystod ei chyhoeddiad, dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:

“Rwy'n falch i gyhoeddi'r cyllid ychwanegol hwn o £50m i wella ansawdd offer Technoleg Addysg yn ein hysgolion.

“Mae'r cyllid hwn yn cynnig cyfle inni gael model Technoleg Addysg mwy cynaliadwy ar gyfer ysgolion - a bydd yr awdurdodau lleol yn cydweithio'n agos i sicrhau cysondeb ar draws Cymru.

“Bydd yr arian hefyd yn sicrhau bod gan ysgolion yr offer iawn i groesawu'r newidiadau a ddaw yn sgil y Cwricwlwm newydd i Gymru. Mae hefyd yn dangos ein hymrwymiad i ddysgu digidol, ac yn pwysleisio pa mor bwysig yw rôl technoleg yn y maes addysg.

“Mae hyn yn fwy na phrynu darnau o offer yn unig. Bydd y rhaglen yn trawsnewid y ffordd y mae ein hawdurdodau lleol a'n hysgolion yn mynd ati i gyflawni'r ddarpariaeth ddigidol, gan sicrhau bod darpariaeth ddigidol ar gael i'n plant ymhell i'r dyfodol."