Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog yr Economi, Ken Skates, wedi dweud y bydd y Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch (AMRC Cymru), gwerth £20 miliwn, ym Mrychdyn yn cynnig lefel newydd o gymorth i fusnesau ac yn sbarduno twf a swyddi yng Nglannau Dyfrdwy, y Gogledd, y Canolbarth ac ym Mhwerdy Gogledd Lloegr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth ymweld â’r safle gydag aelodau Bwrdd Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy i weld sut mae'r gwaith ar y ganolfan ymchwil gweithgynhyrchu uwch yn dod yn ei flaen, pwysleisiodd y Gweinidog y bydd y datblygiad yn Sir y Fflint yn cefnogi'r nifer fawr o fentrau bach, canolig a mawr sydd yn yr ardal, ac yn sicrhau hefyd y bydd y byd diwydiannol a'r byd academaidd yn cydweithio mewn ffordd gryfach a mwy entrepreneuraidd.    
 
Dechreuodd y gwaith adeiladu ar y ganolfan ym mis Mai 2018 a disgwylir iddo gael ei gwblhau yn yr hydref.
 
Airbus fydd y tenant mawr cyntaf yn AMRC Cymru, a bydd y ganolfan yn rhoi cyfle iddo ddatblygu technolegau'r genhedlaeth nesaf ar gyfer adenydd, gan wneud hynny yng nghyswllt 'Adain Yfory', sy'n rhan o fuddsoddiad Airbus mewn ymchwil ac arloesi.   
 
Rhagwelir y gallai'r ganolfan newydd ychwanegu hyd at £4 biliwn o werth ychwanegol gros (GVA) at economi Cymru dros yr 20 mlynedd nesaf.
 
Y mis diwethaf, cyhoeddodd y Gweinidog y bydd Pennaeth presennol Coleg Cambria a Chadeirydd Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy, David Jones OBE, yn cadeirio'r Bwrdd Cynghori Lleol am chwe mis, gan gadw llygad ar weithgareddau a pherfformiad AMRC Cymru.    
 
Dywedodd Ken Skates ar ôl yr ymweliad:

"Roeddwn i'n falch o weld bod y gwaith adeiladu ar AMRC Cymru yn dod yn ei flaen yn dda. Bydd y ganolfan hon yn golygu y bydd modd gwneud gwaith ymchwil sydd ar flaen y gad ym maes gweithgynhyrchu uwch, a hynny ar raddfa ddiwydiannol.

“Dw i wedi dweud o'r blaen y bydd y ganolfan newydd yn gweddnewid y sefyllfa'n llwyr, a dwi'n dal i gredu hynny. Mae'n argoeli i fod yn adeilad gwych a fydd yn sbarduno arloesedd a chynhyrchiant ar draws y gadwyn gyflenwi ac yn rhoi hwb gwirioneddol i dwf economaidd.

“Mae Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy yn feithrinfa ar gyfer gweithgynhyrchu yn y Gogledd a bydd AMRC Cymru yn bluen yng nghap y rhanbarth.  Dwi'n edrych 'mlaen at weld y gwaith yn parhau i ddod yn ei flaen dros y misoedd nesaf cyn i’r ganolfan gael ei chwblhau'n ddiweddarach eleni.”