Daeth yr ymgynghoriad i ben 17 Gorffennaf 2012.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 228 KB
Mynegai ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 77 KB
Ymatebion 1 (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Ymatebion 2 (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB
Ymatebion 3 (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Ymatebion 4 (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Ymatebion 5 (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Ymatebion 6 (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae'r ddogfen ymgynghori yn disgrifio'n cynigion ar gyfer datblygu a chryfhau'r ffordd rydym am ymdrin â datblygu cynaliadwy yng Nghymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae ein Rhaglen Lywodraethu’n ymrwymo i:
- Ddeddfu i wneud datblygu cynaliadwy yn brif egwyddor drefniadol i Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus yng Nghymru; a
- Chreu corff datblygu cynaliadwy annibynnol i Gymru.
Bydd yr ymgynghoriad hwn yn dylanwadu ar ddatblygiad Papur Gwyn y Bil Datblygu Cynaliadwy. Y bwriad yw cyhoeddi’r ddogfen honno a fydd yn cynnwys cynigion manylach yn hydref 2012.
Yn yr ymgynghoriad hwn rydyn ni am glywed eich barn am:
- ein hagwedd at roi dyletswydd datblygu cynaliadwy ar sefydliadau sy’n cynnig gwasanaethau cyhoeddus;
- ein hagwedd at rôl a swyddogaethau corff datblygu cynaliadwy annibynnol newydd;
- y rhwystrau sy’n atal cyrff rhwng gwneud penderfyniadau mwy tymor hir a chydgysylltiedig a beth sydd angen ei wneud i chwalu’r rhwystrau;
- tystiolaeth ynghylch hybu datblygu cynaliadwy;
- adolygu dyletswyddau cyfreithiol a symleiddio’r drefn gyfreithiol trwy’r Bil Datblygu Cynaliadwy;
- manteision ac anfanteision diffinio cyfraith “datblygu cynaliadwy”.
