Neidio i'r prif gynnwy

Y drwydded OGL

Cyhoeddir holl adnoddau BydTermCymru, gan gynnwys y cofau cyfieithu, o dan fersiwn 3.0 o'r drwydded OGL.

Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi (HMSO) sydd wedi datblygu’r drwydded OGL (Open Government Licence / Trwydded Llywodraeth Agored), a hynny fel offeryn i alluogi Darparwyr Gwybodaeth yn y sector cyhoeddus i drwyddedu eraill i ddefnyddio ac ailddefnyddio eu Gwybodaeth.

Mae “Gwybodaeth” yn y cyd-destun hwn yn cynnwys y testun sydd yn y ffeiliau TMX a gyhoeddir ar BydTermCymru, yn ogystal â’r testun sydd mewn adnoddau eraill y gellir eu lawrlwytho o’r wefan.

Dyma ddyfyniad o eiriad safonol y drwydded:


Mae gennych ryddid i

  • gopïo, cyhoeddi, dosbarthu a darlledu'r Wybodaeth;
  • addasu'r Wybodaeth;
  • manteisio yn fasnachol ac anfasnachol ar y Wybodaeth, er enghraifft, trwy ei chyfuno â Gwybodaeth arall, neu trwy ei chynnwys yn eich cynnyrch neu becyn eich hun.

Mae'n rhaid i chi (pan fyddwch yn gwneud unrhyw un o'r uchod)

  • gydnabod ffynhonnell y Wybodaeth yn eich cynnyrch neu becyn trwy gynnwys neu gysylltu ag unrhyw ddatganiad priodoli a nodwyd gan Ddarparwr(wyr) y Wybodaeth a, phan fydd hynny'n bosibl, roi dolen i'r drwydded hon

Mae Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru yn ymwybodol y gall fod yn anymarferol cydnabod ffynhonnell unrhyw wybodaeth sy’n cael ei hailddefnyddio o’i chofau cyfieithu.

Cewch fwy o wybodaeth am y drwydded drwy fynd i wefan yr Archifau Gwladol.