Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Julie James wedi lansio ymgynghoriad heddiw ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Awst 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Fframwaith yn rhoi'r cyfeiriad ar gyfer ble i leoli cartrefi, swyddi a gwasanaethau newydd ac yn nodi ardaloedd ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy. Mae'n cynnwys: 

  • cynigion ar gyfer ardaloedd blaenoriaeth newydd ar gyfer datblygiadau ynni gwynt a solar mawr i gymryd lle TAN8; 
  • ffocws ar ehangu ardaloedd trefol sy'n bod a sicrhau bod cartrefi, swyddi a gwasanaethau yn cael eu darparu yn yr un ardal; 
  • ffocws ar ddarparu mwy o gartrefi fforddiadwy ar raddfa a chyflymder priodol 
  • mae tri chlwstwr o drefi a dinasoedd wedi'u clustnodi fel rhai o arwyddocâd cenedlaethol lle bydd ffocws ar ddarparu llawer mwy o dai a swyddi: Caerdydd, Casnewydd a'r Cymoedd;  Bae Abertawe a Llanelli a Wrecsam a Glannau Dyfrdwy; 
  • mewn ardaloedd eraill, bydd datblygiadau'n gwireddu uchelgais lleol a'r angen i ategu'r ardaloedd trefol sy'n tyfu. 

Dywedodd Julie James:

"Rydym am hyrwyddo twf cynaliadwy yng Nghymru, yn arbennig yn ein trefi a dinasoedd. Mae'r strategaeth yn ddigon hyblyg i ymateb i heriau'r ugain mlynedd nesaf. 

"Ein huchelgais yw cynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy yma yng Nghymru; mae'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn nodi ble yn ein barn ni y gallai prosiectau ynni adnewyddadwy mawr gael eu cynnal yng Nghymru. 

"Rydyn ni'n gwybod bod ar bobl Cymru angen mwy o dai o ansawdd da; a'u bod nhw am ddatblygu ynni adnewyddadwy a chael swyddi breision yn agos i ble maen nhw'n byw. 

"Rwyf wedi ymrwymo i adeiladu mwy o dai cyngor ar raddfa a chyflymder priodol yng Nghymru, ac i weld cynghorau a landlordiaid cymdeithasol eraill yn rhentu mwy o dai fforddiadwy. Rwyf am weld system gynllunio sy'n diwallu'n hanghenion bob amser; a gweld ein pentrefi, trefi a dinasoedd yn cael eu trefnu mewn ffordd fydd yn ei gwneud hi'n haws byw bywydau iach ac egnïol ynddyn nhw, i ni ac i'r cenedlaethau i ddod. 

"Rwy'n grediniol y bydd ein polisïau yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn ein helpu i wireddu hyn. 

"Mae'r ymgynghoriad ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft yn awr ar-lein, ac rwy'n gobeithio clywed barn amrywiaeth eang o bobl yng Nghymru am ein cynigion." 

Bydd yr ymgynghoriad yn para tan ddydd Gwener, 1 Tachwedd 2019.