Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 1 Hydref 2013.

Cyfnod ymgynghori:
9 Gorffennaf 2013 i 1 Hydref 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion am y canlyniad

Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 458 KB

PDF
458 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Nod y cynigion newydd ar gyfer rheoli cocos yng Nghymru yw gwella'r broses o reoli a sicrhau cynaliadwyedd y pysgodfeydd cocos a'r amgylchedd morol yng Nghymru.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Cynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol y llynedd er mwyn adolygu'r modd y rheolir pysgodfeydd cocos yng Nghymru. Bydd hyn yn helpu i gyflawni polisi rheoli newydd a diwygiedig sy'n llym ac yn deg mewn perthynas â phob agwedd ar gasglu cocos. Dangosodd yr ymatebion a dderbyniwyd bod angen gwneud rhagor o waith ymchwil:

  • i’r fethodoleg sydd ynghlwm wrth ddyrannu trwyddedau
  • gwell system olrhain
  • cynllun prentisiaeth
  • gwell rheoleiddio ar gyfer pawb
  • ynghyd â chaniatáu pysgota drwy'r flwyddyn drwy bennu cyfanswm y ddalfa a ganiateir.

Mae ail ymgynghoriad o'r enw 'Adolygiad Pellach o Reoli Pysgodfeydd Cocos yng Nghymru 2013' bellach wedi'i lansio.

Nod yr ymgynghoriad hwn yw ateb rhai o'r materion hyn nad ydynt wedi'u datrys. Caiff hyn ei gyflawni drwy Gynllun Trwyddedau Cymru Gyfan ar gyfer casglu cocos yn fasnachol ynghyd â chynllun trwyddedau ar wahân ar gyfer ardaloedd penodol y pysgodfeydd cocos mawr. Cynigir hefyd newid y rheoliadau is-ddeddfau presennol (neu eu dirymu).

Rydym hefyd yn bwriadu cyflwyno system newydd a fydd yn ei gwneud hi'n orfodol i lenwi ffurflenni manylion daliadau. Diben y ffurflenni hyn yw ei gwneud hi'n haws olrhain cocos at ddibenion rheoli pysgodfeydd o'r ardal gynhyrchu i’r proseswyr. Bydd angen i bob casglwr a phroseswr sy'n meddu ar gocos o welyau yng Nghymru gwblhau'r dogfennau hyn a’u dangos os bydd gofyn amdanynt.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal cronfa ddata o gofnodion ynghylch casglu pysgod cregyn ac fe fydd yn bosibl cymharu'r data â chofnodion y proseswyr. Rydym yn bwriadu rhannu'r gronfa ddata hon â rhanddeiliaid priodol gan gynnwys Awdurdodau Lleol a'r Asiantaeth Safonau Bwyd. Bydd pob cais ar gyfer trwydded yn cynnwys datganiad priodol ynghylch derbyn bod data yn cael eu rhannu gan awdurdodau perthnasol.

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 174 KB

PDF
174 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.