Mae prosiect peilot sydd wedi'i gynllunio i helpu cymunedau arfordirol yng Nghymru ac Iwerddon i addasu i’r newid yn yr hinsawdd wedi cael cymorth €1.3m o gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd (yr UE).
Bydd y prosiect Cymunedau Arfordirol yn Addasu Gyda'n Gilydd yn edrych ar oblygiadau rhanbarthol y newid yn yr hinsawdd, gan ganolbwyntio ar gymunedau arfordirol Aberdaugleddau a Doc Penfro yng Nghymru a Rush a Portrane yn Swydd Fingal, Iwerddon.
Bydd hefyd yn edrych am gyfleoedd masnachol ar gyfer ynni'r môr o Fôr Iwerddon, gan geisio atebion creadigol i broblemau newid yn yr hinsawdd sy’n bwysig yn fyd-eang.
Fel rhan o'r prosiect, anogir pobl leol i arsylwi, dehongli a chofnodi data am eu cymuned a'r amgylchedd arfordirol, a chymryd rhan weithgar wrth addasu eu cymunedau a'u busnesau.
Bydd y data hyperleol hwn yn cael eu defnyddio i lunio 'map cyfranogi' a rennir, gan gysylltu ffactorau lleol â'r darlun mawr, byd-eang, i ddatgelu patrymau a thueddiadau yn ymwneud â materion gan gynnwys newid yn y boblogaeth a heriau economaidd.
Mae'r prosiect wedi'i ariannu drwy raglen gydweithredu Iwerddon Cymru yr UE a bydd yn cael ei arwain gan Goleg y Brifysgol Dulyn mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, Coleg y Brifysgol Corc, Fforwm Arfordir Sir Benfro, Cyngor Swydd Fingal a Phorthladd Aberdaugleddau.
Mae rhaglen Iwerddon Cymru yn cefnogi busnesau a sefydliadau yn y ddwy wlad i gydweithio mewn gwahanol feysydd gan gynnwys y newid yn yr hinsawdd, arloesi, treftadaeth ddiwylliannol a thwristiaeth.
Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles, sy'n goruchwylio cyllid yr UE yng Nghymru:
"Bydd dod â phrif ymchwilwyr newid hinsawdd, arbenigwyr y diwydiant a llywodraeth leol Cymru ac Iwerddon ynghyd yn ein helpu i ddeall yr amgylchedd newidiol, a sut y mae'n effeithio ar gymunedau arfordirol ar ddwy ochr Môr Iwerddon. Dyma enghraifft ymarferol arall o'r camau gwirioneddol yr ydym yn eu cymryd i ymateb i'r Argyfwng Hinsawdd.
"Rwy'n falch o weld ein gwledydd yn cydweithio ar y prosiect hwn, gan helpu i fynd i'r afael â blaenoriaethau hanfodol yn ymwneud â’r newid yn yr hinsawdd."
Dywedodd yr Athro Orla Feely, Is-lywydd Ymchwil, Arloesi ac Effaith Coleg y Brifysgol Dulyn:
"Rwy'n croesawu'r prosiect amserol hwn ar y cyd i fynd i'r afael ag effaith y newid yn yr hinsawdd ar gymunedau arfordirol. Yn ogystal â mynd i'r afael â maes pwysig aruthrol, mae'r prosiect yn enghraifft wych o'r berthynas ymchwil agos a chynhyrchiol rhwng Cymru ac Iwerddon.
Mae’r berthynas yn gryfach fyth ers ymweliadau diweddar Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, a Phrif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, yr Athro Peter Halligan â Choleg y Brifysgol Dulyn. Mae'r Athro Peter Halligan ei hun yn gyn-fyfyriwr o'n prifysgol. Rydyn ni yng Ngholeg y Brifysgol Dulyn yn gwerthfawrogi’r cydweithio sydd rhyngon ni a phartneriaid yng Nghymru ar brosiectau ymchwil, ac yn edrych ymlaen at ragor o lwyddiant gyda'n gilydd."
Dywedodd y Gweinidog Cyllid a Gwariant Cyhoeddus a Diwygio, Paschal Donohoe T.D., sy’n bennaf gyfrifol am Gronfeydd Strwythurol yr UE yn Iwerddon:
“Heb unrhyw amheuaeth y newid yn yr hnsawdd yw un o’r prif heriau yr ydym yn ei wynebu heddiw. Golyga maint yr her, fodd bynnag, ei bod hi’n aml yn anodd i unigolion a chymunedau bennu ffyrdd o addasu a chyfrannu at syniadau blaengar.
“Gall y prosiect hwn, o dan raglen drawsffiniol Cymru-Iwerddon, sy’n cyfuno’r byd academaidd, busnesau, llywodraeth leol ac arbenigwyr cymunedol o’r ddwy wlad, wella ein dealltwriaeth o’r effeithiau a’n helpu i bennu atebion cynaliadwy.”