Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraethau Cymru a’r Alban wedi codi pryderon difrifol am effaith Brexit ‘heb gytundeb’ ar Erasmus+, y cynllun cyfnewid myfyrwyr rhyngwladol ledled Ewrop.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Awst 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mewn llythyr a anfonwyd at Gavin Williamson, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg, mae Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, a Richard Lochhead, Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch yr Alban, yn dadlau'r achos dros barhau i gymryd rhan yn y rhaglen.

Mae Gweinidogion Cymru a’r Alban yn dweud y byddai gadael yr UE heb gytundeb, a heb i Lywodraeth y DU gyrraedd cytundeb amgen ar gyfer Trydydd Gwledydd neu drefniant arall, yn golygu na fyddai prifysgolion, colegau, ac ysgolion ledled y DU yn gymwys i gyflwyno ceisiadau i gymryd rhan ym mlwyddyn olaf y rhaglen Erasmus+ bresennol yn 2020.

Rhwng 2014 a 2018, mae Erasmus+ wedi galluogi amcangyfrif o dros 10,000 o fyfyrwyr a staff yng Nghymru i ymgymryd ag ymweliadau mudo er budd eu dulliau dysgu a’u datblygiad gyrfaol. 

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:

“Dros y pum mlynedd diwethaf, mae tua 10,000 o fyfyrwyr a staff yng Nghymru wedi elwa o gymryd rhan yn rhaglen Erasmus+.

“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gyfrifol am gyfraniad ariannol y DU i raglen Erasmus+ ond gyda phrin wythnosau i fynd cyn gadael yr Undeb Ewropeaidd nid oes cynlluniau o hyd i sefydlu cynllun cenedlaethol yn ei lle. Os yw’r Prif Weinidog yn mynnu mynd â ni dros ymyl y dibyn wrth adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, gall y niwed i ragolygon myfyrwyr prifysgol, y staff a chymunedau cyfan ledled Cymru y mae ein prifysgolion yn rhan mor annatod ohonynt fod yn ddifrifol.

“Rydyn ni’n galw ar yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg i gwrdd â ni fel mater o frys er mwyn sicrhau bod Cymru a’r Alban yn parhau’n aelodau cyflawn o’r rhaglen bwysig yma.”