Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Minister for Environment, Energy and Rural Affairs

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Awst 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy'n cyhoeddi heddiw ein bod wedi cyflwyno Cynllun Cymorth ar gyfer Cynllun y Taliad Sylfaenol 2019

Rwy'n bryderus am effaith penderfyniad y DU i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ar ffermwyr Cymru. Rwyf wedi nodi'n glir o'r dechrau'n deg y byddai ymadael heb gytundeb yn gwbl drychinebus i'n sector amaethyddol ac i'n cymunedau gwledig.

Gan fod y DU yn fwyfwy tebygol o ymadael heb gytundeb mae'n gwbl allweddol ein bod yn rhoi cymaint â phosibl o sicrwydd i ffermwyr Cymru. Rydym ni, fel llywodraeth, yn gwneud popeth posibl er mwyn cefnogi'r diwydiant. Fy mlaenoriaeth i yw sicrhau ein bod yn cynllunio'n synhwyrol ac rwyf wedi bod yn cydweithio â'n partneriaid, undebau ffermio, elusennau a llawer o randdeiliaid ers haf 2016 er mwyn sicrhau bod ein diwydiant yn y sefyllfa orau bosibl i wynebu heriau Brexit.

Yn yr un modd â 2018, rwyf wedi penderfynu peidio â gwneud rhagdaliadau o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol ym mis Hydref. Byddai hyn yn creu anghysondeb rhwng busnesau fferm gan y byddai rhai ond nid pawb yn derbyn rhagdaliadau. Mae'n fwriad gen i, fodd bynnag, i adeiladu ar lwyddiant Cynllun Benthyciadau Cynllun y Taliad Sylfaenol a gyflwynwyd y llynedd, lle y cafodd dros £23 miliwn ei dalu i gyfrifon banc 1,200 o fusnesau fferm yn ystod wythnosau cyntaf mis Rhagfyr.

O'r herwydd bydd y Cynllun Cymorth ar gyfer Cynllun y Taliad Sylfaenol 2019 yn talu benthyciad uwch o hyd at 90% o werth tybiedig hawliad busnes unigol o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol 2019, a bydd yn rhoi rhywfaint o sicrwydd ariannol i ffermwyr Cymru yn ystod cyfnod mor ansicr. Bydd hefyd yn sicrhau bod busnesau fferm yn gydradd, gan ein bod yn bwriadu talu hawliadau o dan y Cynllun Cymorth ar gyfer Cynllun y Taliad Sylfaenol yn ystod wythnos gyntaf cyfnod taliadau'r Cynllun, sy'n parhau o 2 Rhagfyr 2019 hyd 30 Mehefin 2020.

Yn yr un modd â 2018, bydd angen i fusnesau ffermio gyflwyno cais o dan y Cynllun Cymorth ar gyfer Cynllun y Taliad Sylfaenol. Bydd Taliadau Gwledig Cymru yn cyflwyno rhagor o fanylion ac yn sicrhau bod modd cyflwyno ceisiadau ar-lein o fis Hydref. Ar yr amod fod busnesau fferm unigol yn bodloni telerau ac amodau angenrheidiol y benthyciad caiff taliadau eu dyrannu i'r hawlwyr hynny na fydd eu hawliadau o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol 2019 wedi'u dilysu erbyn dechrau mis Rhagfyr.

Yn sgil yr ansicrwydd parhaus ynghylch Brexit mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru baratoi a chynllunio ar gyfer pob sefyllfa bosibl. Am y rheswm hwn nid yw Taliadau Gwledig Cymru yn debygol o allu cyflawni'r un lefel o daliadau ar y diwrnod cyntaf o'i gymharu â'r blynyddoedd blaenorol, ac o'r herwydd hoffwn annog hawlwyr Cynllun y Taliad Sylfaenol 2019 i gyflwyno cais am y Cynllun Cymorth ar gyfer Cynllun y Taliad Sylfaenol 2019 gan ddefnyddio ffurflen syml RPW Ar-lein.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er gwybodaeth i Aelodau'r Cynulliad a'r diwydiant. Os bydd Aelodau'r Cynulliad am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddaf yn fwy na pharod i wneud hynny.