Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei hymgyrch deledu ddiweddaraf yn ystod Wyrthnos Rhoi Organau (2-9 Medi) er mwyn ceisio annog mwy ohonom i roi’n henwau ar y Gofrestr Rhoi Organau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dyma’r trydydd hysbyseb gan Lywodraeth Cymru sy’n deillio o ymgyrch bwerus y llynedd a oedd yn annog pobl i siarad am roi organau, ond hefyd i wneud penderfyniad ar ymater, dweud wrth eu teulu a chofrestru ar-lein wedyn.

Mae ffigurau Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG yn dangos bod bron i hanner pobl Cymru wedi cofrestru eu penderfyniad rhoi organau ar y Gofrestr Rhoi Organau erbyn hyn.

Yn 2015, fe wnaeth Cymru fabwysiadu system feddal o optio allan, a olygai os nad oedd unigolyn wedi cofrestru unrhyw benderfyniad rhoi organau, yna gellir ei ystyried yn gydsyniad tybiedig. Mae cydsyniad tybiedig yn cymryd nad oedd gan ungiolyn unrhyw wrthwynebiad i roi organau oni bai ei fod wedi dweud fel arall.

Mae symud i system newydd wedi helpu i gynyddu’r gyfradd gydsynio yng Nghymru, a dyma’r gyfradd uchaf yn y DU. Fodd bynnag, mae’r gallu i optio i mewn i’r Gofrestr Rhoi Organau wedi bod yno erioed, ac yn rhywbeth yr ydym yn annog pobl i’w wneud.

Mae’r ymgyrch hysbysebu newydd yn chwarae ar gemau dyfalu enwog fel ‘charades’ er mwyn cyfleu’r neges mewn ffordd chwareus ond pwerus fod teuluoedd yn fwy tebygol o gefnogi penderfyniad os ydyn nhw’n gwybod mai dyna oedd dymunad eu perthynas.

Meddai’r Nyrs Arbenigol Rhoi Organau, Sarah Crosby, sy’n siarad â theuluoedd y rhai sydd wedi rhoi a derbyn organau fel rhan o’i gwaith:

Oherwydd y ddeddfwriaeth system feddal o optio allan sydd gennym yng Nghymru, gallwn dybio bod rhywun wedi cydsynio oni bai iddo dweud fel arall. Mae’n fuddiol iawn wrth sgwrsio gyda theuluoedd, ond mae rhai perthnasau’n dal yn ansicr yn y sefyllfaoedd hyn.

Dyna pam, os ydych chi’n teimlo’n angerddol dros roi organau ac am i’ch teulu fod yn siŵr am eich penderfyniad, y dylech chi fynd ar-lein i optio i mewn.

Y llynedd, bu farw 24 o bobl yng Nghymru wrth ddisgwyl am organau, felly mae’n neges bwysig i’w chyfleu, sef mai ymuno â’r Gofrestr Rhoi Organau a dweud wrth eich anwyliaid yw’r ffordd orau o sicrhau bod pawb yn ymwybodol o’ch penderfyniad, ychwanegodd Sarah.

Mae’r ymgyrch newydd yn dilyn ymgyrch deledu o fri ‘Siarad am roi organau’ oedd yn canolbwyntio ar aelodau’r teulu yn gwyrdroi penderfyniad rhoddwr organau.

Yn ôl Paul Williams, Cyfarwyddwr Creadigol Golley Slater sy’n gyfrifol am yr ymgyrch:

Mae’r ymgyrch newydd yn gam cyffrous i gynllun Rhoi Organau Cymru.

“Mewn ymgyrchoedd blaenorol, rydym wedi sefydlu’r angen i bobl siarad â’u hanwyliaid, a nawr rydyn ni’n annog pobl i gymryd y cam o lofnodi’r gofrestr. Mae defnyddio’r thema gemau teuluoel yn pwysleisio pwysigrwydd cael y sgwrs bwysig hon gyda’n hanwyliaid er mwyn osgoi dryswch yn y dyfodol.

Meddai’r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething:

Mae’n braf gweld Cymru ar flaen y gad gyda deddfwriaeth rhoi organau, ac mae’r Alban a Lloegr wedi dilyn ein hesiampl ni gyda deddfwriaeth optio allan a fydd yn dod i rym yn 2020. Er bod llawer yn ymwybodol o’r ddeddfwriaeth yma yng Nghymru, rhaid inni feddwl am ffyrdd newydd parhaus o sicrhau bod cymaint o bobl ag sy’n bosib yn gwneud popeth posib i egluro eu penderfyniad wrth eu ffrindiau a’u teuluoedd.

“Mae adegau penodol yn ein bywydau lle rydym yn cael ein cymell i feddwl am roi organau, fel wrth adnewyddu ein trwydded yrru neu wrth fynd at y meddyg. Hoffem greu cymaint ag sy’n bosib o gyfleoedd i bobl ystyried a siarad am eu penderfyniad, ac os ydyn nhw eisiau, cofrestru hynny ar y Gofrestr Rhoi Organau. Gobeithio mai dyna fydd yr ymgyrch hysbysebu hon yn ei wneud. Rydyn ni’n hynod falch o’r ymgyrch ac yn edrych ymlaen at ei gweld ar y teledu, y cyfryngau cymdeithasol ac mewn print, gan sicrhau bod cymaint ag sy’n bosib ohonom yn dechrau siarad am roi organau.

Fe fydd yr hysbyseb i’w weld am y tro cyntaf heno (2.09.19) yn ystod egwyl Coronation Street ar ITV Cymru ac ar S4C.
Os ydych chi am roi organau, mae’n bwysig penderfynu a chofrestru hynny trwy ffonio 0300 123 23 23 neu fynd i https://llyw.cymru/ymgyrch-siarad-am-roi-organau a siarad â’ch anwyliaid am roi organau.