Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth i blant ledled Cymru ddychwelyd i'r ysgol, rydym yn dechrau ar yr ail flwyddyn o'r broses o gyflwyno asesiadau personol ar-lein.

Ym mis Rhagfyr 2018, yn unol â Chenhadaeth ein Cenedl, cafodd asesiadau personol Rhifedd (Gweithdrefnol) eu lansio. Roedd yr asesiadau ar gael i'r ysgolion eu cynnal ar unrhyw adeg yn ystod 2018/19, ac erbyn diwedd yr haf, roedd mwy na 268,000 o ddysgwyr ym mlynyddoedd 2 i 9 wedi sefyll yr asesiadau yn llwyddiannus.

Yn dilyn gwaith datblygu a threialu helaeth mewn ysgolion ledled Cymru, bydd asesiadau darllen yn cael eu lansio yn Gymraeg ac yn Saesneg yn ystod tymor yr hydref.

Nod yr asesiadau personol yw cefnogi dysgu'r dysgwyr, addysgu'r athrawon a dealltwriaeth rhieni. Mae'r asesiadau personol yn addasu pa mor anodd yw'r cwestiynau i gyfateb i ymatebion y dysgwr, er mwyn cynnig her briodol i bob unigolyn.  Yna, mae ysgolion yn cael gwybodaeth wedi'i theilwra am sgiliau pob unigolyn y gallant ei defnyddio i gynllunio eu haddysgu yn y dyfodol.

Mae manteision yr asesiadau newydd hefyd yn cynnwys adborth y diwrnod canlynol, marcio awtomatig sy'n lleihau llwyth gwaith athrawon, a hyblygrwydd i'r asesiadau gael eu defnyddio ar adeg sy'n gyfleus i'r ysgol.

A ninnau'n dechrau ar ail flwyddyn yr asesiadau Rhifedd (Gweithdrefnol) nid yn unig y bydd ysgolion yn gallu cael gafael ar wybodaeth am sgiliau'r dysgwyr, ond byddant hefyd yn gallu gweld sgoriau'r dysgwyr yn fuan ar ôl iddynt gwblhau'r asesiadau yn hytrach na gorfod aros tan ddiwedd y flwyddyn ysgol, a hynny am fod y sgoriau gyfer rhifedd gweithdrefnol yn cael eu cynhyrchu'n awtomatig, yn seiliedig ar ddata Cymru gyfan o flwyddyn gyntaf yr asesiadau.

Wrth gyflwyno'r asesiadau arloesol hyn, mae angen i ni sicrhau ein bod yn gwneud pethau'n iawn, ac felly dyna pam rydym yn cyflwyno'r asesiadau hyn yn raddol. Mae hyn yn golygu y gallwn gael adborth gan ysgolion er mwyn gwneud gwelliannau ar hyd y daith. O ganlyniad, rydym wedi gallu gwneud newidiadau i wella'r profiad o sefyll yr asesiadau a'u gweinyddu.

Dros yr haf, gwnaethom gynnal adolygiad o gronfa gwestiynau rhifedd gweithdrefnol.

O ganlyniad, ac mewn ymateb i adborth a gafwyd gan ysgolion, rydym wedi diweddaru'r gronfa gwestiynau a gwnaed rhywfaint o waith mireinio o ran profiad y dysgwr.

Gwnaed gwaith datblygu ar y safle hefyd er mwyn integreiddio adroddiadau a sgoriau dysgwyr â'r system fel bod cynnydd dysgwyr yn gallu cael ei gynhyrchu'n awtomatig o fewn y wefan.  Gwnaeth hyn dynnu sylw at broblem fach gyda'r dull cyfrifo a ddefnyddir i gynhyrchu'r sgoriau safonedig yn ôl oedran. O ganlyniad, gwnaed rhai newidiadau i'r sgoriau safonedig yn ôl oedran a gyflwynwyd cyn diwedd tymor yr haf. Nid yw hyn yn effeithio ar y wybodaeth a ddarperir am sgiliau pob dysgwr unigol, sef prif nod yr asesiad; mae hwn ond yn newid bach i'r sgôr safonedig yn ôl oedran. Nid yw'r newidiadau hyn o ganlyniad i unrhyw fethiant yn y system asesu awtomataidd, oherwydd cynhaliwyd y broses safoni angenrheidiol all-lein. Rydym wedi sicrhau bellach fod gwiriadau ychwanegol ar waith. Rydym hefyd wedi hysbysu'r consortia addysg rhanbarthol ac ysgolion am y newidiadau hyn.

Wrth i ni symud i ail flwyddyn y gwaith graddol o bontio i asesiadau personol, bydd gwefan yr asesiadau ar gau yn ystod mis Medi wrth iddi gael ei ffurfweddu â data ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd. Rwyf ar ddeall bod rhai ysgolion o bosibl yn awyddus i gyrchu safle'r asesiadau o ddechrau'r tymor, ond mae'n hanfodol bod y safle'n cau er mwyn sicrhau y caiff ei ffurfweddu'n gywir.

Mae'r gwaith o ddatblygu'r asesiadau Rhifedd (Rhesymu) hefyd yn mynd rhagddo er mwyn bod yn barod i'w cyflwyno yn 2020/21. Ychwanegu'r gwaith o asesu sgiliau rhesymu rhifyddol i'r gyfres hon o asesiadau fydd yr elfen fwyaf uchelgeisiol o'r prosiect a ni fydd y cyntaf yn y byd i wneud hynny.

Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bob un o'r ymarferwyr sydd wedi gwirfoddoli i fod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r asesiadau, drwy baneli athrawon a threialu mewn ysgolion, ac am yr adborth gwerthfawr a ddarparwyd ganddynt.

Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am ein rhaglen uchelgeisiol ac arloesol wrth iddi barhau i ddatblygu.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.