Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o ddiben a chylch gwaith y Panel Trosolwg Annibynnol ar Famolaeth.

Diben

Rhoi'r trosolwg angenrheidiol i alluogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i weithredu argymhellion adroddiad y Colegau Brenhinol yn brydlon, yn agored ac yn dryloyw.

Yr hyn a olygir gennym gyda'r term 'trosolwg' yw cyfuniad o fesurau sy'n deillio yn wrthrychol (gan gynnwys gosod targedau, monitro, craffu, herio, profion realiti, arweiniad, anogaeth a chymorth) sydd o'u cyfuno yn rhoi sicrwydd i'r rhanddeiliaid (gan gynnwys cleifion, staff a'r cyhoedd) bod y Bwrdd Iechyd yn cyflawni'r gwelliannau y mae angen iddo eu cyflawni.

Cylch gorchwyl

  • Sefydlu trefniadau cadarn sy'n rhoi sicrwydd i randdeiliaid bod argymhellion adolygiad y Colegau Brenhinol ac argymhellion cysylltiedig eraill yn cael eu gweithredu gan y Bwrdd Iechyd. Gosod a chytuno ar gerrig milltir a phethau i'w cyflawni, ac olrhain cynnydd yn erbyn y rhain
  • Sefydlu a chytuno ar broses amlddisgyblaeth annibynnol i gynnal adolygiad clinigol o ddigwyddiadau difrifol 2016-2019 a nodwyd gan y Colegau Brenhinol fel rhai sydd angen eu harchwilio ymhellach. Cynnal ymarfer 'edrych yn ôl' i 2010 a sicrhau bod unrhyw un sydd â phryderon cyfiawn ynglŷn â’u gofal yn cael cyfle i gael adolygiad ohono. Sicrhau bod y Bwrdd Iechyd ac eraill yn gweithredu ar unrhyw beth a ddysgwyd o'r adolygiadau hyn
  • Cynghori'r Bwrdd Iechyd ynglŷn â'r camau y mae angen iddo eu cymryd i sefydlu trefniadau meithrin cysylltiadau effeithiol sy'n cynnwys cleifion a staff yn y broses o wella gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ac ailadeiladu ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn gyffredinol yn y Bwrdd Iechyd
  • Uwchgyfeirio unrhyw faterion neu bryderon a ddaw i'r amlwg yn ymwneud â llywodraethu yn ehangach i'r Bwrdd Iechyd ac i Lywodraeth Cymru fel sy'n briodol
  • Cynghori'r Gweinidog ynglŷn ag unrhyw gamau pellach y mae'r Panel yn eu hystyried yn angenrheidiol i sicrhau darpariaeth gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol sy'n ddiogel, yn gynaliadwy, o ansawdd uchel ac yn canolbwyntio ar y claf. Dylai hyn gynnwys cyngor am yr angen am unrhyw adolygiadau annibynnol dilynol, ac amseru'r rhain, ac adnabod unrhyw wersi ehangach ar gyfer y GIG yng Nghymru.